Diweddariad Tywydd

Yr Hen Goleg

Yr Hen Goleg

22 Rhagfyr 2010

Y Tywydd Drwg

Diweddariad 11

2.00 p.m. Dydd Mercher 22 Rhagfyr 2010

Os na fydd y tywydd yn dirywio bydd y Brifysgol yn parhau ar agor fel arfer heddiw ac yfory, y diwrnod gwaith olaf. Bydd staff yn dychwelyd i’r gwaith ar 4 Ionawr 2011.

Noder fod mynediad i rai rhannau o stad y Brifysgol yn parhau’n anodd oherwydd rhew ac eira. Mae gofyn bod yn ofalus iawn o hyd felly wrth yrru a cherdded.

Dylai aelodau o staff sydd yn dal i fethu â chyrraedd y gwaith oherwydd y tywydd ddarllen Polisi Amgylchiadau Eithriadol y Brifysgol sydd ar gael ar-lein

http://www.aber.ac.uk/en/media/FINAL-adverse_conditions_policy_v7_draft-27-05-10.pdf

Hoffai’r Brifysgol ddiolch i’r holl aelodau o staff am eu hymdrechion dros yr wythnos ddiwethaf yn sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu cynnal er gwaethaf y tywydd gwael.

Bydd y sefyllfa yn cael ei hadolygu dros egwyl y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd a bydd unrhyw ddiweddariad yn cael ei bostio yma.

Diweddariad 10

2.00 p.m. Dydd Llun 20 Rhagfyr 2010

Os na fydd y tywydd dirwywio bydd y Brifysgol yn parhau ar agor fel arfer am weddill yr wythnos hon.

Noder os gwelwch yn dda fod mynediad i rai rhannau o stad y Brifysgol yn parhau'n anodd oherwydd ia ac eira. Mae gofyn bod yn ofalus iawn wrth yrru a cherdded.

Erbyn bore heddiw mae nifer fechan o ardaloedd o gampysau’r Brifysgol ar gau. Mae'r rhain yn cynnwys rhai meysydd parcio a llwybrau cerdded a bydd y rhain wedi eu nodi yn glir.

Dylai aelodau staff sydd ddim yn gallu cyrraedd eu gwaith o hyd oherwydd yr amgylchiadau tywydd presennol ddarllen Polisi Amgylchiadau Eithriadol sydd ar gael ar lein yma

http://www.aber.ac.uk/en/media/POLISI-AMGYLCHIADAU-EITHRIADOL.pdf

Hoffai'r Brifysgol ddiolch i aelodau staff am eu hymdrechion yn ystod y pedwar diwrnod diwethaf er mwyn sicrhau fod gwasanaethau yn cael eu cynnal er gwaethaf y tywydd gwael.

Diweddariad 9

5.00 p.m. Dydd Sul 19 Rhagfyr 2010

Bydd y Brifysgol ar agor fel arfer yfory, ddydd Llun 20 Rhagfyr. Er hyn mae mynediad i rai rhannau o stad y Brifysgol yn anodd oherwydd ia ac eira. Mae gofyn bod yn ofalus iawn wrth yrru a cherdded.

Bydd rhai rhannau penodol o gampysau’r Brifysgol ar gau. Mae'r rhain yn cynnwys rhai meysydd parcio a llwybrau cerdded a bydd rhain wedi eu nodi yn glir.

Noder y bydd maes parcio y Buarth (Yr Ysgol Gelf) ar gau a bydd y sefyllfa yn cael ei hadolygu yn ystod y dydd. Mynediad o'r ffordd gyhoeddus sydd yn peri gofid fan hyn.
Dylai aelodau staff sydd ddim yn gallu cyrraedd eu gwaith oherwydd yr amgylchiadau tywydd presennol ddarllen Polisi Amgylchiadau Eithriadol sydd ar gael ar lein yma
http://www.aber.ac.uk/en/media/POLISI-AMGYLCHIADAU-EITHRIADOL.pdf

Noder y bydd cyflwr campysau'r Brifysgol yn cael ei fonitro dros y dyddiau nesaf. Nid oes bwriad i ddarparu diweddariadau pellach onibai fod amgylchiadau yn newid.

Diweddariad 8

9.00 a.m. Dydd Sul 19 Rhagfyr 2010

Yn dilyn adolygiad o gyflwr campws Penglais y Brifysgol yn gynharach y bore yma bydd y canlynol ar agor heddiw, dydd Sul 19 Rhagfyr 2010.

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Bydd Canolfan y Celfyddydau ar agor. Mae rhaglen y dydd yn cynnwys dau berfformiad o The Wizard of Oz (2.30 p.m. a 5.30 p.m.). Rhagor o fanylion ar gael ar wefan y Ganolfan http://www.aberystwythartscentre.co.uk/

Gwasanaethau Llety a Chroeso

Mae TaMed Da (Penbryn) ar agor ac yn darpau brecwast tan 11.00 y bore, cinio rhwng 12 a 2 y prynhawn a choffi tan 4 y prynhawn.

Llyfrgell Hugh Owen

Noder fod Llyfrgell Hugh Owen yn dychwelyd at amserlen oriau agor gwyliau'r Nadolig sydd ar gael yma http://www.aber.ac.uk/cy/is/news/index.html.

Bydd y diweddariad nesaf yn cael ei ddosbarthu am 5.00 p.m. ddydd Sul 19 Rhagfyr drwy gyfrwng e-bost a gwefan newyddion y Brifysgol www.aber.ac.uk/newyddion.

Diweddariad 7

5.00 p.m. Dydd Sadwrn 18 Rhagfyr 2010

Yn dilyn y datganiad gafodd ei rhyddhau'r bore yma, noder fod perfformiad heno o The Wizard of Oz yn mynd yn ei flaen fel y trefnwyd, gan ddechrau am 7.30 yng Nghanolfan y Celfyddydau.

Bydd y diweddariad nesaf yn cael ei ddosbarthu am 9.30 a.m. ddydd Sul 19 Rhagfyr drwy gyfrwng e-bost a gwefan newyddion y Brifysgol www.aber.ac.uk/newyddion.

Diweddariad 6

9.00 a.m. Dydd Sadwrn 18 Rhagfyr 2010

Yn dilyn adolygiad o gyflwr campws Penglais y Brifysgol yn gynharach y bore yma bydd y canlynol ar agor heddiw, dydd Sadwrn 18 Rhagfyr 2010.

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Bydd Canolfan y Celfyddydau ar agor. Mae rhaglen y dydd yn cynnwys dau berfformiad o The Wizard of Oz (2.30 p.m. a 7.30 p.m.). Rhagor o fanylion ar gael ar wefan y Ganolfan http://www.aberystwythartscentre.co.uk/

Llyfrgell Hugh Owen

Bydd Llyfrgell Hugh Owen ar agor rhwng 10.00 a.m. a 3.00 p.m.

http://www.aber.ac.uk/cy/is/news/index.html

Gwasanaethau Llety a Chroeso

Mae TaMed Da (Penbryn) ar agor ac yn darpau brecwast tan 11.00 y bore, cinio rhwng 12 a 2 y prynhawn a choffi tan 4 y prynhawn.

Bydd y diwweddariad nesaf yn cael ei ddosbarthu am 5.00 ddydd Sadwrn 18 Rhagfyr drwy gyfrwng e-bost a gwefan newyddion y Brifysgol www.aber.ac.uk/newyddion.

Diweddariad 5

8.00 p.m. Dydd Gwener 17 Rhagfyr 2010

Mae'r sefyllfa parthed y tywydd drwg yn cael ei hadolygu yn ofalus. Bydd manylion am ba rai o adnoddau'r Brifysgol a fydd ar agor dros y penwythnos yn cael eu gosod yma tua 9.00 a.m. bore fory, dydd Sadwrn 18 Rhagfyr.

Diweddariad 4

10.30 a.m. Dydd Gwener 17 Rhagfyr 2010

Noder fod adeiladau academaidd a gweinyddol y Brifysgol, ynghyd â Chanolfan y Celfyddydau a'r Ganolfan Chwaraeon ar gau heddiw.

Mae trefniadau penodol yn cael eu gwneud ar gyfer myfyrwyr preswyl. Mae'r manylion yn cael eu cyfleu iddynt yn uniongyrchol gan y Swyddfa Llety.

Bydd diweddariadau yn cael eu darparu drwy gyfrwng e-bost ac ar wefan newyddion y Brifysgol www.aber.ac.uk/news.

Diweddariad 3

9.00 a.m. Dydd Gwener 17 Rhagfyr

Y Tywydd Drwg

Noder fod y Brifysgol ar agor. Noder fod campws Penglais ar gau i geir ar hyn o bryd.

Oherwydd yr amgylchiadadu tywydd presennol cynghorir aelodau staff i ddarllen Polisi Amgylchiadau Eithriadol sydd ar gael ar lein yma

http://www.aber.ac.uk/en/media/POLISI-AMGYLCHIADAU-EITHRIADOL.pdf

Mae’r polisi yn nodi:

Dylai aelodau staff wneud pob ymdrech i ddod i’r gwaith beth bynnag fo’r amgylchiadau, oni bai y cewch gyfarwyddyd fel arall gan Brifysgol Aberystwyth. Er hynny, mae Prifysgol Aberystwyth yn ymrwymedig i iechyd, diogelwch a lles ei staff ac nid yw’n disgwyl i’r staff osod eu hunain mewn perygl sylweddol wrth geisio dod i’r gwaith.

Os bydd gan weithiwr bryderon penodol ynghylch trefniadau personol, dylent eu trafod ar unwaith gyda’r rheolwr llinell. Dylai rheolwyr llinell uniongyrchol benderfynu fesul achos a yw’n briodol i weithwyr yn yr adran adael y gwaith yn gynnar.
Wrth wneud penderfyniad o’r fath, dylid cadw mewn cof amgylchiadau’r gweithiwr (e.e. pellter o’r cartref, dull teithio, cyfrifoldeb am ddibynyddion), barn y gweithiwr ac anghenion y Brifysgol.

Os bydd i’r tywydd ddirywio, bydd diweddariadau yn cael eu darparu drwy gyfrwng e-bost ac ar wefan newyddion y Brifysgol www.aber.ac.uk/news.

Diweddariad 2

12.00 p.m. Dydd Mercher 1 Rhagfyr 2010

Mae'r Brifysgol yn parhau i fod ar agor. Os bydd i’r tywydd ddirywio, bydd diweddariadau ar gael yma. Gallwch hefyd weld y rhagolygon tywydd ar gyfer ardal Aberystwyth yma.

Diweddariad 1

12.00 p.m Dydd Gwener 26 Tachwedd 2010

Noder for y Brifysgol ar agor. Os bydd i’r tywydd ddirwyio, bydd diweddariadau ar gael yma.

Mae aelodau staff sydd angen gadael y gwaith yn gynnar yn cael eu cyfeirio at y wybodaeth ganlynol allan o bolisi Amgylchiadau Eithriadol sydd ar wefan Adnoddau Dynol.

http://www.aber.ac.uk/en/media/POLISI-AMGYLCHIADAU-EITHRIADOL.pdf

Os bydd gan weithiwr bryderon penodol ynghylch trefniadau personol, dylent eu trafod ar unwaith gyda’r rheolwr llinell. Dylai rheolwyr llinell uniongyrchol benderfynu fesul achos a yw’n briodol i weithwyr yn yr adran adael y gwaith yn gynnar.

Wrth wneud penderfyniad o’r fath, dylid cadw mewn cof amgylchiadau’r gweithiwr (e.e. pellter o’r cartref, dull teithio, cyfrifoldeb am ddibynyddion), barn y gweithiwr ac anghenion y Brifysgol.