Cerdded o amglych y byd

Logo Her Cerdded o Amgylch y Byd

Logo Her Cerdded o Amgylch y Byd

17 Ionawr 2011

Efallai fod Phileas Fogg wedi llwyddo i deithio o amgylch y byd ar drenau, llongau a hyd yn oed eliffantod yn nofel enwog Jules Verne Tour du Monde ên 80 Jours, ond yr her sydd yn wynebu staff Prifysgol Aberystwyth yw cwblhau’r daith yn yr un amser wrth gerdded. 

Mae mesurwyr camau ar gael i’r rhai sydd yn fodlon bod yn rhan o Her Cerdded o Amgylch y Byd 2011, menter gadw’n heini newydd sydd yn cael ei lansio gan Swyddfa Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd y Brifysgol - http://www.aber.ac.uk/en/hse/.

Drwy ddefnyddio’r mesurwyr camau bydd angen i’r rhai sydd yn cymryd rhan gofnodi bob cam a llwytho’r wybodaeth i gyfrifiannell ar lein a fydd yn dangos cyfanswm y camau sydd wedi eu cymryd ar unrhyw adeg. Y nod, er mwyn cwblhau’r daith, yw 48,800,000 o gamau.

Dr Helen Williams o Swyddfa Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd y Brifysgol sydd yn goruchwylio’r paratoadau ac a fydd hefyd yn darparu diweddariadau ar hyd y daith.   “Nod Her Cerdded o Amgylch y Byd 2011 yw cymell pobl i gerdded mwy a mwynhau rhai o’r manteision iechyd sydd yn deillio o fywyd bywiog,” dywedodd.

“Cynllun ffitrwydd yw hwn sydd ddim yn eich gorfodi i fynd i’r gampfa, y pwll nofio na chwaith i redeg ar nosweithiau tywyll y gaeaf. Y cyfan sydd angen ei wneud yw cerdded mwy tra yn y swyddfa ac yn y cartref a chadw cofnod o’r camau rydych wedi eu gwneud.” 

“Os ydych yn gweithio o flaen y sgrin gyfrifiadur drwy’r dydd pam na ewch am dro amser coffi neu amser cinio. Ymddengys nad yw llawer yn ymwybodol o’r ffaith taw anafiadau sydd yn deillio o ddefnyddio sgriniau cyfrifiaduron am oriau hir yw un o’r prif achosion o salwch yn y gweithle,” ychwanegodd.

Mae’r her yn dechrau ar ddydd Llun 31ain Ionawr a’r gobaith yw cyrraedd pen y daith erbyn dydd Mercher 20fed Ebrill.

Er mwyn cofrestru ar gyfer Her Cerdded o Amgylch y Byd 2011 a chael ei mesurydd camau rhad ac am ddim cysylltwch â Helen Williams ar hew@aber.ac.uk / 2169.

AU0711