Yr Antiques Roadshow yn Ymweld â Phrifysgol Aberystwyth

Fiona Bruce, Cyflwynydd Antiques Roadshow

Fiona Bruce, Cyflwynydd Antiques Roadshow

RhannuAberystwyth University - facebookAberystwyth University - XAberystwyth University - Email

23 Mai 2011

Ddydd Iau, 9fed Mehefin,  2011 bydd rhaglen nos Sul fytholwyrdd BBC 1, sef ANTIQUES ROADSHOW, yn ffilmio ar gyfer ei 34ain cyfres yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. Bydd y drysau’n agor am 9.30a.m., yn cau am 4.30p.m. a bydd mynediad i’r sioe yn rhad ac am ddim.

Wrth law bydd rhai o arbenigwyr mwyaf blaenllaw Prydain ar hen bethau, creiriau, trugareddau a darnau celf cain i roi cyngor ac amcanu gwerth eitemau’r ymwelwyr.

Fe’ch gwahoddir i fynd ar sgowt i’r atig a dod â thrysorau teuluol, ac eitemau diddorol sydd o werth i chi er mwyn i’r arbenigwyr gymryd golwg arnyn nhw.

Cyflwynir y sioe gan Fiona Bruce, a fydd yno hefyd ac yn ffilmio storïau cefndirol am Aberystwyth.

Os oes gan bobl gelfi neu eitemau eraill mawr, gallant anfon manylion a ffotograff ohonynt i: ANTIQUES ROADSHOW, BBC, Whiteladies Road, Bristol BS8 2LR neu e-bostio’r manylion i: antiques.roadshow@bbc.co.uk.

Yn ôl golygydd y gyfres, Simon Shaw: “Mae’r tîm yn edrych ymlaen i ddod i Aberystwyth. Mae hi wastad yn gyffrous gweld beth ddaw i’r fei ar y dydd. Rydyn ni’n gweld cymaint â 1500 i 2000 o ymwelwyr ar y dydd ond er gwaetha’r niferoedd hyn fe gaiff pawb gyfle i weld arbenigwr.”

AU12211