Datganiad

Yr Hen Goleg.

Yr Hen Goleg.

03 Hydref 2011

Mae'r Brifysgol wedi cyhoeddi heddiw bod nifer o ymchwiliadau ar y gweill i nifer o weithgareddau masnachol a/neu weithredol sydd wedi dod i’r amlwg yn dilyn adolygiad mewnol o ystadau’r Brifysgol a gafodd ei wneud ar gais yr Is-Ganghellor newydd.

Mae aelodau o staff y Brifysgol yn cydweithio gyda’r ymchwiliadau ar hyn o bryd ac mae’n debygol y byddant yn treulio llawer o’u hamser yn gwneud hyn tra bydd yr ymchwiliadau yn mynd rhagddynt.

Gan fod yr ymchwiliadau yma yn mynd yn eu blaen, does dim llawer mwy y gallwn ei ddweud ar hyn o bryd.