‘Galw pob Aber-preneur!’

Mynychwyr yn Wythnos Dechrau Busnes Hâf 2011.

Mynychwyr yn Wythnos Dechrau Busnes Hâf 2011.

12 Rhagfyr 2011

Cynhelir Wythnos Cychwyn Busnes Prifysgol Aberystwyth ar y campws o ddydd Mawrth 13 i ddydd Iau 15 o Rhagfyr 2011.  Mae’r ‘Gwersyll Busnes’ yma yn cynnig cyfle ardderchog i gymryd rhan mewn gweithdai sgiliau busnes hanfodol yn RHAD AC AM DDIM ac mae’n agored i staff, myfyrwyr a graddedigion.

Os oes gennych syniad busnes yr hoffech ei roi ar waith, neu ddiddordeb mewn datblygu’ch sgiliau mentergarwch, beth am ymuno â ni am un neu fwy o’r gweithdai? Bydd y sesiynau’n trafod themâu yn cynnwys: Cynllunio Busnes, Ymchwil Marchnad, Cynllunio Ariannol ac E-Farchnata. 

“Yn ogystal â phecyn hyfforddi sgiliau busnes hanfodol, mae’r Wythnos Cychwyn Busnes yn cynnig cyfleoedd ardderchog i unigolion rwydweithio a chwrdd â mentergarwyr o’r un anian, ac i adeiladu rhwydwaith cymorth y gallant ei ddefnyddio wrth ddatblygu eu syniad busnes.” 
Tony Orme, Rheolwr Menter, Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori.

Am wybodaeth bellach a manylion am sut i gofrestru, ewch i: www.aber.ac.uk/crisalis