Dr Andy Breen

14 Rhagfyr 2011

Bu farw Dr Andrew Breen, Uwch Ddarlithydd yn y Sefydliad Mathemateg a Ffiseg.

Roedd Dr Breen yn frodor o Sunderland. Graddiodd o Aberystwyth cyn mynd ymlaen i gwblhau ei ddoethuriaeth mewn Ffiseg yr Ïonosffer yma.

Yn ystod ei yrfa bu hefyd yn gweithio ym Mhrifysgol Southampton a’r Max-Planck Institut fur Aeronomie yn Katlenburg-Lindau yn Saxony Isaf.

Wedi cyfnod fel Cymrawd Ymchwil Uwch PPARC rhwng 1998 a 2001, cafodd ei benodi i swydd darlithydd. 

Bu Dr Breen yn arwain y Grŵp Ymchwil System Solar o 2005 tan iddo drosglwyddo’r awenau i’r Athro Manuel Grande a chafodd ei ddyrchafu’n Uwch Ddarlithydd yn 2006. Roedd yn Gymrawd y Gymdeithas Astronomegol Frenhinol.

Roedd yn cael ei ystyried yn un o’r ymchwilwyr mwyaf blaenllaw ym maes esblygiad y gwynt heulol ac roedd yn cydweithio gyda nifer o grwpiau rhyngwladol gyda gwyddonwyr ym maes yr haul a’r gwynt heulol ar draws y byd - gan gynnwys Canolfan Hedfan Gofodol Goddard NASA a Labordy Amgylchedd Heulol a Daearol Prifysgol Nagoya, Siapan.

Roedd yn gyd-ymchwilydd ar becyn offer CELIAS ar daith STEREO NASA ac ar Brosiect Gwyddoniaeth Allweddol ar Wyddoniaeth Heulol a Heliosfferig ar gyfer telesgop radio LOFAR.

Yn ystod 2007 a 2008 roedd yn un o brif drefnwyr y Flwyddyn Heliosfferig Ryngwladol.

Bu’n diodde anhwylder iechyd ers cryn amser a bu farw ddydd Gwener 9 Rhagfyr yn 47 oed.