Neuaddau Preswyl Newydd Fferm Penglais

09 Ionawr 2012

Mae Prifysgol Aberystwyth yn parhau â’r broses o sicrhau Neuaddau Preswyl Newydd. Disgwylir iddynt ddarparu llety i 1000 o fyfyrwyr mewn neuaddau modern hunan ddarpar. 

Mae’r Brifysgol wedi bod yn rhan o ddeialog tendro gystadleuol ers mis Mawrth 2011 pan bostiwyd hysbysiad contract ar Gyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd oedd yn gwahodd mynegiadau o ddiddordeb oddi wrth ddarpar ddatblygwyr posibl.

Derbyniodd y Brifysgol dri chais ardderchog ar ddiwedd Cam 2 o’r Ddeialog Gystadleuol.

Yn dilyn y gwerthusiad gan Dîm y Prosiect, mae Balfour Beatty a The Miller Consortium wedi’u dewis i gymryd rhan yng Ngham 3 a fydd yn dechrau yng nghanol Ionawr 2012. Yr ymgeisydd aflwyddiannus oedd Sir Robert McAlpine. Nododd Tîm y Prosiect fod pob un o’r ceisiadau wedi bod yn rhai o’r safon uchaf. Diolcha’r Brifysgol i Sir Robert McAlpine am eu diddordeb yn y Prosiect a byddent yn croesawu ceisiadau eraill oddi wrthynt ar gyfer prosiectau’r dyfodol.

I roddi mwy fyth o gefnogaeth i ddatblygiad Prosiect y Neuaddau Preswyl Newydd, mae’r Brifysgol yn ddiweddar wedi penodi Pick Everard fel Ymgynghorydd Technegol i’r Tîm Prosiect. Bydd Pick Everard, sydd â swyddfeydd yng Nghaerdydd, yn darparu cyngor technegol ynghylch safon yr adeiladu, ac yn cynghori ar ragoriaethau, cymhwystra, a chostau’r gwahanol ddulliau adeiladu arfaethedig.

Nododd James Wallace, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Preswyl a Chroeso ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Yr ydym wedi’n plesio gan y datblygiadau a wnaed yn y broses Ddeialog Gystadleuol, a chan safon y ceisiadau, gan fod y Brifysgol o hyd ar y trywydd cywir i ddarparu’r profiad llety gorau posibl i’r myfyrwyr yn y dyfodol. Disgwylir y bydd Cam 3 o’r ddeialog gystadleuol wedi’i gwblhau erbyn diwedd y gwanwyn gyda dewis yr ymgeisydd mwyaf cymwys, a’r diweddglo ariannol erbyn diwedd haf 2012, fel y gall y Brifysgol gyflawni ei bwriad o basio’r prosiect ymlaen yn 2014.”

AU0112