Diagnosis cancr y brostad

Yr Athro Reyer Zwiggelaar.

Yr Athro Reyer Zwiggelaar.

23 Ionawr 2012

Mae ymchwil newydd a phellgyrhaeddol i ddiagnosis o gancr y brostad yn digwydd ar hyn o bryd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Ariennir yr ymchwil gan Elusen Cancr y Brostad, a gobeithir, os fydd yr astudiaeth yn llwyddiant, y bydd yn galluogi meddygon i weld yn fwy eglur faint a lleoliad cancr prostad mewn dyn, ac y byddant trwy hynny yn medru gwneud gwell penderfyniadau am y driniaeth gywir ar gyfer pob sefyllfa unigol.

Gall y dulliau presennol ar ddelweddu cancr y brostad yn ystod diagnosis weithiau roi delwedd aneglur ar ehangder y clwyf.

Derbyniodd y prif ymchwilydd, yr Athro Reyer Zwiggelaar £60,100 i oruchwylio prosiect PhD i astudio’r syniad newydd o gyfuno canlyniadau adlais magnetig (MRI) gyda chanlyniadau uwchsain er mwyn rhoi syniad manylach o leoliad cancr y brostad yn y corff.

Esbonia’r Athro Zwiggelaar: “Mae’r cyfnod o wneud penderfyniadau yn dilyn diagnosis o gancr o brostad yn medru bod yn gyfnod straenllyd i lawer o ddynion, a gwaethygir hyn gan yr ansicrwydd sydd yn y dulliau presennol o lunio diagnosis.

“Trwy archwilio’r buddiannau a gyfyd o gyfuno adlais magnetig gydag uwchsain, bwriadwn ddatblygu dull ar ddiagnosis a fydd yn ein galluogi i adeiladu delweddau mwy trylwyr a manwl ar diwmorau unigol yn y brostad nag y medrwn ar hyn o bryd.

“Gobeithiwn y bydd y gwelliannau i gywirdeb y diagnosis yn rhoi mwy o hyder i ddoctoriaid wrth iddynt ddewis pa driniaethau i’w defnyddio ac yn sicrhau fod mwy o’r triniaethau hynny yn llwyddiannus.”

Mae’r grant hwn wedi’i ddyfarnu i’r Athro Zwiggelaar fel rhan o raglen barhaus Elusen Cancr y Brostad i gefnogi ymchwil i helpu trin yr aflwydd.

Eleni, mae’r Elusen wedi gwobrwyo dros £2 filiwn o grantiau - ei buddsoddiad ymchwil mwyaf erioed - i sefydliadau ar draws y DU er mwyn hybu gwelliannau mewn diagnosis a thriniaeth cancr y brostad.

Dywedodd Dr Kate Holmes, Rheolwr Ymchwil yn Elusen Cancr y Brostad: “Un o’r sialensiau mwyaf ym myd ymchwil cancr y brostad yw medru rhoi diagnosis o’r afiechyd yn y lle cyntaf.

“Dewisom ariannu’r prosiect blaengar hwn gan ein bod yn credu y bydd yn rhoi atebion angenrheidiol i ddoctoriaid er mwyn iddynt fedru rhoi diagnosis mwy cywrain a thriniaeth gyflymach a fydd yn wir gymorth i ddynion yn nyddiau cynnar yr afiechyd.

“Edrychwn ymlaen at gael gweithio’n agos gyda’r tîm a disgwyliwn yn eiddgar am ganlyniadau’r ymchwil.”
Cancr y brostad yw’r cancr a ddiagnosir amlaf mewn dynion yn y DU. Bob blwyddyn caiff 37,000 o bobl ddiagnosis o gancr y brostad ac mae un yn marw o’r cyflwr bob awr yn y DU.

Mae Elusen Cancr y Brostad yn gweithio tuag at fyd lle na chyfyngir ar fywydau pobl oherwydd cancr y brostad. Mae’r Elusen yn ymladd cancr y brostad ym mhob ffordd - trwy ymchwil, trwy gefnogaeth, trwy wybodaeth a thrwy ymgyrchu.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch cancr y brostad, ffoniwch Linell Gymorth gyfrinachol Elusen Cancr y Brostad ar 0800 074 8383, lle cewch siarad â nyrsys arbenigol, rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener ac ar ddydd Mercher rhwng 7yh i 9yh, neu ewch at y wefan www.prostate-cancer.org.uk.