Cymrodyr i gael eu hanrhydeddu

04 Ebrill 2012

Anrhydeddir wyth Cymrawd, gan gynnwys y darlledwr Caitlin Moran a chyfarwyddwr y ffilm Pixar Geri's Game, Dr Jan Jaroslav Pinkava, gan Brifysgol Aberystwyth yn ystod Seremonïau Graddio 2012 ym mis Gorffennaf.

Urddir y teitl Cymrawd i unigolyn uchel ei barch a chanddynt gysylltiad agos â Phrifysgol Aberystwyth, neu sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i fywyd proffesiynol neu gyhoeddus yng Nghymru.

Yn 2012 Cymrodorion er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth fydd (yn nhrefn yr wyddor):

Yr Athro Michael Clarke

Mae’r Athro Michael Clarke yn gyn fyfyriwr o’r adran Wleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ar hyn o bryd, efe yw Cyfarwyddwr  Sefydliad Brenhinol y Gwasanaethau Unedig. Tan fis Gorffennaf 2007 ef oedd y Dirprwy Is-Bennaeth a Chyfarwyddwr Datblygiad Ymchwil Coleg y Brenin Llundain (CBLl), lle erys hyd heddiw yn Athro Gwadd mewn Astudiaethau Amddiffyn. Rhwng 1990 a 2001, fe oedd sylfaenydd Gyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Amddiffyn, rhwng 2001 a 2005, sylfaenydd Gyfarwyddwr Sefydliad Polisi Rhyngwladol tan ddaeth yn  Bennaeth yr Ysgol Gwyddoniaeth Gymdeithasol a Pholisi Cyhoeddus CBLl yn 2004-05. Fe’i penodwyd yn Athro mewn Astudiaethau Amddiffyn yn 1995.

Alex Jones

Mae Alex Jones yn gyn fyfyrwraig Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn wreiddiol o Rydaman, dechreuodd ei gyrfa fel ymchwilydd teledu cyn dod yn gyflwynwraig ar raglenni plant S4C; roedd rhain yn cynnwys Hip neu Sgip?, Salon a RI:SE ar Sianel 4. Cyflwynodd Alex Jones raglen deithio S4C Tocyn gydag Aled Samuel, y rhaglen chwaraeon eithafol Chwa ac roedd yn rhan o’r tîm ar raglen rygbi Jonathan Davies Jonathan ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2010. Mae’n gyflwynwraig ar The One Show, ac y mae wedi cystadlu yn Strictly Come Dancing.

Syr David Lloyd Jones

Sur David yw un o Farnwyr Gweinyddol Cymru a cafodd yrfa uchel ei pharch ym Mhrifysgol Caergrawnt cyn iddo gael ei benodi i’r Uchel Lys. Gwnaeth gyfraniad aruthrol i ddatblygiad y system gyfreithiol yng Nghymru a hyrwyddiad y Gymraeg yn y system gyfreithiol honno. Fe’i ganed ac fe’i magwyd ym Mhontypridd. Ym mis Hydref, 2005, fe’i benodwyd yn Farnwr yn yr Uchel Lys o Adran Mainc y Frenhines. Y mae hefyd yn Gadeirydd Pwyllgor Gweithredol yr Arglwydd Ganghellor ar yr Iaith Gymraeg ac yn Ddirprwy Ganghellor y Comisiwn Ffiniau Seneddol yng Nghymru. 

Y Parch John Gwilym Jones

Maged John Gwilym Jones ger Castellnewydd Emlyn mewn teulu sydd wedi dod yn amlwg ym myd yr Eisteddfod. Gwasanaethodd fel Archdderwydd Cymru a Chofiadur yr Orsedd. Cafodd Ddosbarth Cyntaf yn Gymraeg yn Aberystwyth yn y pumdegau. Yn ogystal â bod yn weinidog gyda’r Annibynwyr bu’n darlithio mewn Cymraeg a Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor. Yr oedd yn un o arweinwyr yr ymgais i uno enwadau’r Anghydffurfwyr yn ystod yr 80au a’r 90au, ac mae’n aelod amlwg gyda Christnogaeth 21, mudiad y Cristnogion Cymraeg rhyddfrydol.

Caitlin Moran

Mae Caitlin Moran yn ddarlledwraig a beirniad teledu. Y mae hefyd yn golofnydd gyda The Times a chyfranna dair colofn yr wythnos i’w ddalennau: un i’r Cylchgrawn Dydd Sul, colofn adolygiad teledu, a cholofn ddydd Gwener ddychanol “Celebrity Watch”. Hi oedd Colofnydd y flwyddyn yn 2010, Beirniad y flwyddyn a Chyfwelydd y flwyddyn yn 2011, yn ôl Gwobrau’r Wasg Brydeinig.

Dr Jan Jaroslav Pinkava

Graddiodd Dr Pinkava o’r Adran Gyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth gyda Gradd Dosbarth Cyntaf a derbyniodd PhD o Adran Roboteg Ddamcaniaethol y Brifysgol. Cafodd ei eni ym Mhrâg a symudodd i'r DU pan oedd yn chwech oed. Mae’n enillydd Oscar am ei waith ar ffilmiau animeiddiedig ac wedi gweithio i Pixar tan 2006. Enillodd ei ffilm fer, Geri’s Game, Oscar yn 1997 am y ffilm animeiddiedig fer orau. Efe a wnaeth y gwaith animeiddio hefyd ar gyfer y ffilm A Bug’s Life a’r cynllunio bwrdd stori ar gyfer Monsters, Inc. a Toy Story 3.

Mark Price

Ymunodd Mark Price â Phartneriaeth John Lewis yn 1982 fel hyfforddai graddedig. Gweithiodd mewn amrywiol swyddi cyn cael ei benodi’n Rheolwr Gyfarwyddwr ar Waitrose ym mis Ebrill 2007. Cyn hyn, yn 2005 penodwyd Mark yn Gyfarwyddwr Datblygiad Partneriaeth (gyda dyletswydd dros Strategaeth ymysg pethau eraill) pan ddaeth yn aelod o Fwrdd y Bartneriaeth. Yn Ionawr 2011 daeth Mark yn Gadeirydd Busnes yn y Gymuned, swydd y bydd ynddi am dair blynedd. Y mae hefyd yn Gadeirydd Cronfa Cefn Gwlad y Tywysog ac yn gyfarwyddwr anweithredol i Sianel 4.

Michael Sheen

Mae Michael Sheen yn actor Cymreig o’r llwyfan a’r sgrin. Astudiodd yn RADA ac ers hynny y mae wedi cael ei enwebu am dri BAFTA ac un gwobr Emmy. Derbyniodd OBE yn 2009 am wasanaethau i fyd drama a derbyniodd ryddid Castell Nedd Port Talbot yn 2008 am ei wasanaethau i actio a’r celfyddydau dramatig. Y mae hefyd yn Arlywydd Ymddiriedolaeth TREAT Cymru ac yn lysgennad Cymreig o’r FILMCLUB. Adeg y Pasg yn 2011, bu i Sheen gyfarwyddo cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o The Passion, drama 72 awr yn portreadu Ddioddefaint Crist. Hefyd, serenodd Sheen yn y ddrama, ac fe’i llwyfannwyd yn ei dref genedigol, sef Port Talbot. Chwaraeodd Sheen y rhan enwol mewn cynhyrchiad o Hamlet yn Theatr y Fic Ifanc yn Lambeth rhwng Hydref 2011 a Ionawr 2012.

Bydd seremonïau graddio eleni’n digwydd rhwng dydd Mawrth y 10fed o Orffennaf tan dydd Gwener y 13eg o Orffennaf 2012.

AU10312