Gwobrwyo prosiect Leverhulme

04 Ebrill 2012

Mae Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Aberystwyth wedi derbyn Grant Prosiect Ymchwil Leverhulme o £232,042 a fydd yn rhedeg am dair blynedd.

Bydd datblygiad barddoniaeth Gymreig yn y Saesneg ers 1997 yn ffocws i brosiect ymchwil newydd pwysig a fydd yn talu sylw penodol i waith beirdd sydd wedi cyrraedd safle flaengar ac wedi derbyn cydnabyddiaeth ers refferendwm Cymru ar ddatganoli.

Gwobrwywyd y grant hwn i’r Athro Peter Barry o’r Brifysgol i arwain y Prosiect ‘Devolved Voices’ sy’n mynd i ddechrau ym mis Medi eleni.

Dywedodd yr Athro Barry, “Yr ydym yn llawen dros ben ein bod wedi cael y cyfle hwn i ystyried egni, cyraeddiadau, a sialensiau barddoniaeth Gymreig gyfoes yn y Saesneg.  Yr ydym yn hynod o ddiolchgar i Ymddiriedolaeth Leverhulme am eu cefnogaeth hael.”

Croesawodd yr Athro Damian Walford Davies, Pennaeth yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, llwyddiant yr Athro Barry, gan ddweud, “Mae’r Grant Ymchwil Pwysig hwn y mae’r Brifysgol wedi’i gaffael yn adlewyrchu ein hymroddiad deallusol at Ysgrifennu Cymreig yn y Saesneg yn ei gyd destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Bydd y prosiect ‘Devolved Voices’ yn darparu ystod o gyhoeddiadau a llwyfannau arloesol a fydd yn eu tro’n rhoddi maeth i’r diwylliant llenyddol sydd wrth wraidd yr astudiaeth.”

Bwriedir i’r prosiect gynhyrchu ystod eang o gyhoeddiadau. Bydd un cyhoeddiad llawn-maint ysgolheigaidd yn gosod barddoniaeth gyfoes Gymreig Saesneg yn ei gyd-destun barddonol Prydeinig, tra fydd un arall yn darparu astudiaethau manwl o ffigyrau mawrion yn y maes. Bydd llyfr o gyfweliadau estynedig âbeirdd allweddol yn darparu rhyngweithiad fanwl gyda’r ymarferwyr eu hunain, tra bydd llyfr terfynol o draethodau a fydd yn ystyried y cwestiwn penodol o gynhyrchu barddoniaeth yng nghyd destun taith y Gymru ddatganoledig.

Bydd y prosiect hefyd yn lansio gwefan llawn fideos a fydd yn darparu cofnod pwysig o drafodaethau gyda’r beirdd eu hunain, o feirdd yn darllen eu gwaith eu hunain, a chyfweliadau â ffigyrau amlwg eraill ym myd barddoniaeth Saesneg cyfoes Cymru. Bwriedir i’r wefan weithredu nid yn unig fel archif hanfodol o ddeunydd i ysgolheigion y dyfodol ond hefyd fel pwynt mynediad i mewn i waith y prosiect i ddarllenwyr barddoniaeth yn gyffredinol.

Yn ymuno â Pheter Barry yn nhîm y ‘Devolved Voices’ fydd y beirniad llên a’r ysgolhaig o farddoniaeth Saesneg modern yng Nghymru, Dr Matthew Jarvis, a’r bardd a chyn olygydd y New Welsh Review, Kathryn Gray. Recriwtir hefyd fyfyriwr PhD i weithio ar agwedd allweddol o’r prosiect.

Mae ‘Devolved Voices’ wedi fendithio â Bwrdd Ymgynghorol gwych, lle cesglir ynghyd Fardd Cenedlaethol Cymru Gillian Clarke, enillydd gwobr T. S. Eliot yr Athro Philip Gross, y bardd, nofelydd, a’r sylwebydd Owen Sheers, yr arbenigwyr nodedig ar ysgrifennu Cymreig, yr Athro Jane Aaron a’r Athro Tony Brown, a golygydd presennol Poetry Wales, Dr Zoë Skoulding.

Arbenigwr ar farddoniaeth modern a chyfoes ynghyd â theori lenyddol yw’r Athro Peter Barry. Y mae’n awdur nifer o lyfrau a thraethodau, gan gynnwys Beginning Theory sydd wedi gwerthu dros 160,000 copi dros dri argraffiad ac y mae hefyd wedi’i gyfieithu i Gorëeg, Wcraineg, a Hebraeg. Cyhoeddir ei lyfr diweddaraf, Reading Poetry, gan Wasg Prifysgol Manceinion yn Hydref 2012.

AU9812