Ymddygiad anifeiliaid

17 Ebrill 2012

Yr wythnos hon mae rhaglen wyddoniaeth BBC Radio Wales “Science Café” yn troi ei sylw at yr ymchwil diweddaraf sydd yn cael ei wneud ym maes ymddygiad anifeiliaid.

Cafodd y rhaglen ei recordio yng Nghynhadledd y Gymdeithas Astudio Ymddygiad Anifeiliaid (Association for the Study of Animal Behaviour - ASAB) a gynhaliwyd rhwng yr 11eg a’r 13eg o Ebrill ym Mhrifysgol Aberystwyth lle’r oedd 150 o arbenigwyr wedi ymgynnull i drafod y datblygiadau diweddaraf.

Mae’r rhaglen yn cynnwys trafodaeth am bersonoliaeth mewn anifeiliaid, o wiwerod rhesog (chipmunks) i adar y to a brain. Pam fod rhai anifeiliaid yn fodlon mentro pan fo eraill yn gwrthod? Beth sydd yn penderfynu os ydych am fod yn seren bop neu’n un o’r dilynwyr?

“Rydym wrth ein boddau o fod yn cynnal y gynhadledd ryngwladol bwysig hon yma yn Aberystwyth, a gyda safon ac amrywiaeth yr ymchwil a gyflwynwyd”, cytunodd cyd-drefnwyr y gynhadledd, Dr Rupert Marshall a Dr Roger Santer o’r grŵp ymchwil Bioleg Esblygol, Ymddygiadol a Dŵr sydd newydd ei sefydlu ym Mhrifysgol Aberystwyth.  “Mae dylanwad ymchwil ymddygiad i’w weld mewn meysydd gwahanol iawn megis datrys gwrthdaro a chadwraeth, rheolaeth traffig ac anhwylder cysgu, yn ogystal ag esblygiad bywyd ar y ddaear.”

Ar y rhaglen mae Hannah Peck, myfyrwraig PhD yng Ngholeg Imperial, Llundain, yn trafod ei hymchwil i’r boblogaeth parakeets sydd ar gynnydd yn Llundain: gan ofyn y cwestiwn, a'i pla yntau ychwanegiad lliwgar i’r ardd ydynt? A sut mae adar brodorol yn dygymod gyda'u presenoldeb? Ac mae Hannah wedi gwahodd y cyhoedd i fod yn rhan o’i hymchwil - enghraifft wych o wyddoniaeth ddinasyddol ar waith.

Er dipyn yn llai, mae ymchwil Sophie Mowles (Prifysgol Nottingham) ar wenyn meirch, a’r modd y mae gwenyn benywaidd yn rhyddhau arogl sydd mor felys â chwistrell bupur er mwyn gwrthod sylw carwriaethol gwrywod, yr un mor ddiddorol.

Mae gwaith ar ymddygiad anifeiliaid ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cael sylw yn ogystal. Mae  Victoria Franks, enillydd gwobr Myfyrwraig Bioleg Orau Ewrop yng ngwobrau SET 2011 yn esbonio ei hymchwil ar fforio cymdeithasol ymysg pysgod trofannol: sut maent yn gwybod pa bysgod i’w dilyn?

Beth bynnag fo eich diddordeb mewn ymddygiad anifeiliaid, gwrandewch ar y rhaglen hon i gael gwybod mwy am eu bywydau cyfareddol neu gwrandewch ar-lein ar ôl y darllediad http://www.bbc.co.uk/wales/radiowales/sites/sciencecafe/updates/20120417.shtml

Ac am fwy o wybodaeth, cymerwch gip ar dudalennau gwe aelodau grŵp ymchwil Boileg Esblygol, Ymddygiadol a Dŵr ym Mhrifysgol Aberystwyth:
http://www.aber.ac.uk/en/ibers/research/research-groups/abeb-new/

AU11412