Trafodaeth folcanig

17 Ebrill 2012

Bydd Bill McGuire, Athro Peryglon Geoffisegol a Hinsawdd yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL), yn siarad am sut mae newid yn yr hinsawdd yn ysgogi daeargrynfeydd, tswnamis a llosgfynyddoedd ym Mhrifysgol Aberystwyth yr wythnos hon.

Dan y teitl ‘Waking the Giant’, bydd yr Athro McGuire yn darparu’r Ddarlith Gregynog* eleni ar dydd Iau 19 Ebrill am 6pm yn sinema Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.

Bydd yn esbonio sut yr arweiniodd newidiadau dramatig yn hinsawdd y ddaear yn y gorffennol at ymateb deinamig oddi wrth gramen y blaned gan yrru daeargrynfeydd, tswnamïau a ffrwydradau folcanig.

Bydd hefyd yn holi os ydym yn mynd i adael byd poethach a llawer mwy daearegol beryglus i’n plant ac i blant ein plant o ganlyniad i’r newid yn yr hinsawdd a achosir gan ddyn.

Mae Bill McGuire yn academydd, yn awdur gwyddoniaeth ac yn ddarlledwr.

Yr oedd yn aelod o Grŵp Gweithgor Peryglon Naturiol Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol a sefydlwyd ym mis Ionawr 2005, yn sgil tswnami Cefnfor yr India, ac yn 2010 yn aelod o Grŵp Cynghori ar Wyddoniaeth mewn Argyfwng (SAGE) a oedd yn delio â'r broblem o ludw folcanig o Wlad yr Iâ.

Yn 2011, yr oedd yn un o awduron adroddiad y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) ar newid yn yr hinsawdd a digwyddiadau eithafol.

Mae ei lyfrau yn cynnwys A Guide to the End of the World: Everything you Never Wanted to Know a Surviving Armageddon: Solutions for a Threatened Planet a Seven Years to Save the Planet.

Ei gyfrol ddiweddaraf yw Waking the Giant: How a Changing Climate Triggers Earthquakes, Tsunamis and Volcanoes. Bill oedd cyflwynydd y gyfres  BBC Radio 4, Disasters in Waiting a Scientists Under Pressure a’r End of the World Reports ar Sianel 5 a Newyddion Sky.

Darperir lluniaeth ysgafn i ddilyn y ddarlith ynghyd â sesiwn arwyddo o lyfr diweddaraf yr Athro McGuire.


* Sefydlwydd Darlith Gregynog o ganlyniad i rodd a wnaed gan Miss Gwendoline Elizabeth Davies a Miss Margaret Sidney Davies, Neuadd Gregynog (Plas Dinam, Llandinam gynt). Mae Rhodd Gregynog, a wnaed ym mis Gorffennaf 1936, yn rhan o Gronfa Ymddiriedolaeth a weinyddir gan y Coleg. Mae’r cyllid blynyddol yn cael ei wario ar "hyrwyddiad astudiaeth o Gerddoriaeth, Daearyddiaeth ac Anthropoleg".

Cyflwynwyd y  Ddarlith Gregynog gyntaf gan Syr John Edward Lloyd ar 'Hanes Ceredigion' yn ystod y flwyddyn academaidd 1936/7.

AU11212