Esblygiad dynol

Yr Athro Trauth

Yr Athro Trauth

27 Medi 2012

Bydd Dr Martin H Trauth, Athro mewn Deinameg Paleohinsawdd ym Mhrifysgol Potsdam yn traddodi darlith ar ‘Esblygiad dynol mewn amgylchedd cyfnewidiol: llynnoedd chwyddog dwyrain Affrica’ yn Aberystwyth ar ddydd Llun 1 Hydref.

Cynhelir y ddarlith gan Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear y Brifysgol am 6.30 yr hwyr ym Mhrif Neuadd Adeilad Gwleidyddiaeth Rhyngwladol.

Mae’r Athro Trauth yn wyddonydd daear amlwg sydd wedi ymchwilio i, ac ail-greu yn ystod y ddau ddegawd diwethaf, newidiadau hinsawdd y Ddaear ar hyd yr oesoedd. Bydd yn canolbwyntio ar sut mae newidiadau hinsawdd wedi dylanwadu ar esblygiad dynol.

Bydd yn canolbwyntio’n benodol ar ddatblygiad System Cenosoig Hollt Dwyrain Affrica (EARS), sydd wedi newid y tirwedd yn ddirfawr ac wedi cynyddu’n sylweddol amlder ymatebion byrdymor i amrywiad hinsoddol.

O’i gymharu â gweddill y cyfandir mae datblygiad llynnoedd basinau yr Hollt tair miliwn o flynyddoedd yn ôl wedi cyfrannu’n sylweddol tuag at sensitifrwydd nodedig dwyrain Affrica at newid hinsawdd, ac o ganlyniad gall fod mai dyma'r lle yr esblygodd dynoliaeth am y tro cyntaf.

Croeso i bawb.