Gŵyl Pensaernïaeth Cymru

03 Mai 2013

Wrth i Ŵyl gyntaf Pensaernïaeth  Cymru ddirwyn i ben, bydd yr  Athro Ymgysylltu gyda Dychymyg y Cyhoedd ym Mhrifysgol Aberystwyth, Richard Marggraf Turley yn cadeirio trafodaeth i fyfyrio ar y thema’r ŵyl sef 'y pŵer a phleserau  adeiladau a lleoedd arbennig ', heno, 3 Mai, 2013 yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Yn ymuno ag ef bydd ei gydweithiwr, yr Athro Damian Walford Davies, Pennaeth  yr AdranSaesneg ac Ysgrifennu Creadigol, Prifysgol Aberystwyth, Nick Capaldi, Prif Weithredwr, Cyngor Celfyddydau Cymru a Cindy Harris, awdur amgylcheddol.

Wedi’i chychwyn gan Gymdeithas Frenhinol y Penseiri yng Nghymru (RSAW), mae’r ŵyl chwe wythnos wedi cynnwys cyfres ffilm pensaernïol ac amrywiaeth o arddangosfeydd sydd yn rhedeg tan 4 Mai yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

I gael rhagor o wybodaeth ewch aber.ac.uk/artscentre

 

Dydd Gwener 3 Mai

Trafodaeth panel

Theatr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Lluniaeth i ddilyn

mynediad am ddim

Dydd Gwener 3 Mai a dydd Sadwrn 4 Mai

Arddangosfeydd - mynediad am ddim

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Bathing Beauties  100 model gan artistiaid a phenseiri yn yn ail-ddychmygu y cwt traeth traddodiadol.

Dyluniadau Stiwdio Heatherwick ar gyfer adeilad newydd i Brifysgol Aberystwyth

Pensaernïaeth frodorol o ffotograffau Ceredigion gan Dafydd Jones-Davies. Strwythudau diffaith, wedi’u trosi ac iwtilitaraidd gan ddefnyddio deunyddiau nodweddiadol sy’n ffurfio deinamig ddiddorol â thirwedd y sir.

Gweledigaethau o le: stori o luniadau aneddiadau a gynlluniwyd gan y Comisiwn Brenhinol ar Henebion Hynafol a Hanesyddol Cymru