IBERS yn ymestyn cynghrair bridio ceirch gyda Senova

Dr Athole Marshall, IBERS

Dr Athole Marshall, IBERS

19 Rhagfyr 2013

Mae IBERS (Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig) Prifysgol Aberystwyth yn ymestyn ei chynghrair gyda Senova, y cwmni marchnata hadau preifat o  Gaergrawnt, am 15 mlynedd arall.

Mae amrywiadau o geirch a fridir gan IBERS wedi cael eu marchnata drwy gynghrair strategol gyda Senova ers 1989, ac mae’r bartneriaeth lwyddiannus hon wedi arwain at gyflwyno sawl amrywiad newydd o geirch i'r Deyrnas Gyfunol a'r farchnad Ewropeaidd.

Ffurfiwyd Senova fel is-gwmni o Arthur Guinness yn 1981, ac mae bellach yn gwmni hadau annibynnol preifat sy'n cynrychioli nifer cynyddol o fridwyr planhigion Ewropeaidd. Mae gan y cwmni rwydwaith treialon eang, ac mae’n gwerthuso deunydd gan fasnacheiddio unrhyw elfennau sy’n dangos potensial.

Senova yw un o’r prif gwmnïau ym maes ceirch a rhygwenith, ac mae’n dal dros 20% o farchnad gwenith gaeaf y DG. Ei brif amrywiad o wenith, JB Diego, oedd y gwenith mwyaf poblogaidd ym Mhrydain dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Dywedodd yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS;
"Rydym wrth ein bodd o gael ymestyn ein cysylltiad â Senova. Yn unol â Strategaeth Amaeth-Tech y DG, dyma enghraifft wych o sut y gall gwyddoniaeth a busnes yn y DG gydweithio a chyfuno cryfderau cyflenwol i chwarae rôl hanfodol wrth fynd i'r afael â heriau bwyd byd-eang yn y tymor hir.

“Rydym yn edrych ymlaen at bartneriaeth hir dymor llwyddiannus i ddatblygu'r rhaglen bridio ceirch yma ymhellach, a'r cyfle y mae'n ei gynnig i ni ddefnyddio ein harbenigedd ac i fanteisio ar y technolegau geneteg a’r genomeg sylfaenol a ddefnyddiwn yma yn IBERS."

Mae hyn yn dilyn cyhoeddi Campws Arloesi a Lledaenu newydd yng Ngogerddan,  lle y bydd seilwaith a chyfleusterau newydd yn cael eu datblygu i ddenu cwmnïau ac ymchwilwyr sydd â diddordeb mewn creu cynhyrchion newydd sy’n hyfyw yn fasnachol, ac sy’n seiliedig ar ddulliau modern o fridio planhigion.

Meddai Dr Athole Marshall, Pennaeth Bridio Planhigion er Lles y Cyhoedd yn IBERS;
"Mae gan y tîm bridio planhigion er lles y cyhoedd yn IBERS flynyddoedd o brofiad o fridio ceirch gaeaf a gwanwyn ar gyfer pobl, ac fel porthiant anifeiliaid uchel eu gwerth. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i fridio amrywiadau o geirch ar gyfer y DG, yn ogystal â’r cyfleoedd y mae’r cysylltiad hwn yn eu cynnig i ddatblygu amrywiadau ceirch arloesol ar gyfer gwledydd eraill.

Rydym yn ymdrechu i ddatblygu amrywiadau newydd o geirch a fydd yn helpu i wneud ffermwyr ledled y byd yn fwy proffidiol, ac sydd o fudd i'r amgylchedd."

Mae yna ymwybyddiaeth gynyddol o werth ceirch fel bwyd i bobl a hefyd fel porthiant anifeiliaid uchel eu gwerth, ac mae'r amrywiadau newydd diweddaraf yn adeiladu ar ddegawdau o lwyddiant yn IBERS ac yn darparu ceirch i ffermwyr, melinwyr a chymysgwyr bwyd anifeiliaid, sy'n fwy cynhyrchiol, gwydn ac sy’n haws i’w dyfu.

Meddai Chris Green, Cyfarwyddwr Senova;
"Mae’n gyfnod cyffrous iawn ym maes bridio planhigion. Mae ymestyn y gynghrair rhwng Senova ac IBERS o berthnasedd strategol arbennig, nid yn unig wrth i’r byd amaethyddol chwilio am ddulliau cynhyrchu mwy cynaliadwy, ond wrth i lywodraeth Prydain, dan y fenter Amaeth-Tech newydd, geisio gwella ansawdd ac ymarferoldeb cynnyrch y DG.

Yn y cyswllt hwn bydd ceirch yn chwarae rhan flaenllaw i wella diet, maeth a lles pobl ac anifeiliaid fel ei gilydd. Mae’r cynnydd mewn gwybodaeth enetig a welwyd dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn ardderchog, ac rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at hybu gwerth ceirch ynghyd â’r defnydd ohono yn y DG ac, yn galonogol, mewn mannau eraill lle’r ydym yn gwerthuso amrywiadau ar hyn o bryd.

Mae rhaglen ceirch IBERS yn hynod arwyddocaol yn fyd-eang, a bydd y cynghrair preifat cyhoeddus hwn yn sicrhau bod cyfraniad y ddau barti, o ran arloesi ceirch, yn cael ei ddatblygu ymhellach.

Mae’r mathau o geirch a ddatblygir yn IBERS bellach yn cyfrif am 68% o farchnad hadau ceirch y DG sy’n werth £2 filiwm y flwyddyn. Mae’r farchnad geirch yn cynyddu’n sylweddol, a disgwylir i hyn barhau wrth i fwy o bobl droi at geirch fel rhan o ddiet iachach a mwy maethlon. Mae’r farchnad ar gyfer grawnfwydydd ceirch poeth yn y DG yn unig yn werth dros £160 miliwn. 

Mae ceirch yn cynnwys math arbennig o ffibr o’r enw beta glwcan sy’n helpu i atal clefyd y galon drwy ostwng y lefelau colesterol. Mae’r astudiaethau hefyd yn dangos fod beta glwcan yn helpu pobl sy'n dioddef o diabetes gan eu bod nhw yn profi llai o gynnydd yn lefelau’r siwgr yn y gwaed.

Mae IBERS wedi bridio math o geirch sy’n cynnwys lefel uwch o beta glwcan er mwyn gwella’r manteision i iechyd. 

AU45513