Tywydd Garw a Llifogydd

Prom Aberystwyth

Prom Aberystwyth

04 Ionawr 2014

Oherwydd y tywydd garw a gafwyd nos Wener, a'r bygythiad pellach o lifogydd llanw posibl, mae Prifysgol Aberystwyth wedi penderfynu gohirio arholiadau’r Brifysgol am wythnos.

Cafodd myfyrwyr sy’n byw ym mhreswylfeydd glan môr y Brifysgol, a llety preifat yn yr ardaloedd risg, eu hadleoli ar nos Wener 3 Ionawr.

Eglurodd Rebecca Davies, Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Gwasanaethau Myfyrwyr a Staff: "Mae ein timoedd o staff wedi bod yn cefnogi myfyrwyr sydd wedi dychwelyd i Aberystwyth ac sy'n byw yn un o'n preswylfeydd glan môr. Cafodd oddeutu 120 o fyfyrwyr eu hadleoli i brif gampws y Brifysgol neithiwr ble y darparwyd bwyd a diodydd poeth iddynt.

"Er bod y lluniau yn ddramatig, ac mae'r môr wedi golchi rhannau o'r promenâd i ffwrdd, mae ein hadeiladau yn ddiogel ac mae myfyrwyr wedi dychwelyd i'w cartrefi.

"Rydym yn ddiolchgar iawn am yr holl gefnogaeth gan fyfyrwyr, staff, Cyngor Ceredigion a'r gwasanaethau brys, ac yn falch bod ein cynlluniau argyfwng wedi gweithio. Rydym hefyd yn ddiolchgar i'r gymuned leol, ac i weithredwyr rheilffyrdd a bysiau am eu cefnogaeth wrth symud ein cymuned o fyfyrwyr, ac am yr holl negeseuon o gefnogaeth a gafwyd ar y cyfryngau cymdeithasol."

Mae'r Brifysgol yn cynghori myfyrwyr i beidio dychwelyd i’r dref nes ganol yr wythnos nesaf, unwaith y bydd y tywydd gwael a ragwelir wedi pasio.

Mae diweddariadau e-bost yn cael eu hanfon i fyfyrwyr yn rheolaidd ac mi fydd amserlen arholiadau ddiwygiedig yn cael ei chyhoeddi yn gynnar yr wythnos nesaf. Anogir myfyrwyr sydd angen cymorth brys i alw llinell gymorth 24 awr y Brifysgol ar 01970 622900 neu fynd i'r brif dderbynfa ar Gampws Penglais y Brifysgol.