Ysgrifennydd Parhaol yn ymweld â Phrifysgol Aberystwyth

Syr Derek Jones

Syr Derek Jones

10 Ionawr 2014

Heddiw, dydd Gwener 10 Ionawr, mae Syr Derek Jones KCB, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru yn ymweld â Phrifysgol Aberystwyth. 

Mae’r Ysgrifennydd Parhaol, uwch was sifil Cymru, yn gyfrifol am reoli adnoddau'r Llywodraeth ac yn atebol i Brif Weinidog Cymru a'i Gabinet. 

Wrth groesawu Syr Derek i'r Brifysgol dywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro April McMahon: "Rwyf wrth fy modd bod Syr Derek wedi neilltuo amser i ymweld â ni fel y gallwn ei ddiweddaru ar yr holl ddatblygiadau yma yn Aberystwyth. Mae’r berthynas weithio gadarnhaol rhyngom â Llywodraeth Cymru yn bwysig i ni ac mae gennym nifer o gynlluniau a phrosiectau cyffrous yr ydym yn awyddus i’w trafod. Mae’n amserol hefyd i ni fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch Syr Derek yn bersonol ar gael ei wneud yn farchog yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd."

Yn ystod ei ymweliad, bydd yr Ysgrifennydd Parhaol yn cyfarfod ag aelodau o Weithrediaeth y Brifysgol ac yn dysgu am gynlluniau uchelgeisiol y Brifysgol ar gyfer Campws Arloesi a Lledaenu Aberystwyth,  yr Hen Goleg, y posibilrwydd o ddatblygu Ysgol Filfeddygol i Gymru yn Aberystwyth, a sut mae'r Brifysgol yn bwriadu datblygu ei hagenda rhyngddisgyblaethol. 

Bydd ymweliad Syr Derek hefyd yn cynnwys ymweliad i lan y môr yn Aberystwyth a gafodd ei effeithio gan y stormydd diweddar ac a arweiniodd at adleoli 150 o fyfyrwyr dros nos o'u llety ar lan y môr i gampws Penglais y Brifysgol. 

AU1314