Mynd i'r afael â throsedd mewn cymunedau gwledig

Yr Athro John Williams

Yr Athro John Williams

20 Ionawr 2014

Mae Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth yn gweithio gyda Chomisiynydd Heddlu Dyfed-Powys i ddatblygu Canolfan newydd ar gyfer Plismona Gwledig a Chyfiawnder. 

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn lansio canolfan ragoriaeth newydd yn edrych ar ffyrdd o fynd i'r afael â throseddau mewn cymunedau gwledig.

Mae Comisiynydd yr heddlu wedi derbyn £44,000 gan Goleg Plismona y Deyrnas Gyfunol er mwyn dechrau’r Ganolfan newydd.

Bydd y prosiect yn gweithio gyda phrifysgolion a phartneriaid eraill i edrych ar anghenion penodol pentrefi a threfi gwledig, a sut y gellir eu plismona.

I ddechrau, bydd yr heddlu yn gweithio gydag ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn ogystal â Sefydliad Gwyddor Heddlu'r Prifysgolion sydd yng Nghaerdydd (UPSI) ar ddatblygu ffyrdd newydd o ddealltwriaeth a mynd i'r afael â throseddau gwledig.

Eglurodd yr Athro John Williams, Pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, "Mae Adran y Gyfraith a Throseddeg yn croesawu'r fenter gyffrous yma sy'n ategu at y gwaith sy’n cael ei wneud o fewn yr Adran. Mae plismona gwledig yn faes ymchwil sydd wedi’i esgeuluso.

"Yn aml iawn mae rhagdybiaethau’n cael eu gwneud am droseddu mewn ardaloedd gwledig, a'r feddylfryd nad yw troseddu yn digwydd yn yng nghefn gwlad Cymru. Nid yw ardaloedd gwledig yn ddarlun perffaith ac mae troseddu yn digwydd mewn cymunedau gwledig. Nid yw chwaith yn cael ei gyfyngu i'r hyn a elwir yn 'drosedd wledig' megis troseddau fferm. Mae troseddau yn erbyn eiddo, trais, cam-drin plant, trais yn y cartref a throseddau casineb i gyd yn digwydd mewn cymunedau gwledig.

"Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi profi troseddau terfysgol proffil uchel a throseddau sy'n gysylltiedig â chyffuriau. Mae’r arfordir yn ddeniadol i feddyliau troseddol a therfysgol. Mae plismona gwledig yn cyflwyno sawl her i’r heddlu. Nid yn unig o safbwynt ardal ddaearyddol fawr sydd angen cael ei phlismona ond mae hefyd yn ymgysylltu diwylliant, iaith ac economeg.

"Nid yw modelau plismona trefol o reidrwydd yn cyd-fynd yn daclus ag ardaloedd gwledig, gan fod y rhan fwyaf o fodelau plismona yn seiliedig ar ardaloedd trefol. Mae angen sylfaen o dystiolaeth i sicrhau bod ardaloedd gwledig yn cael eu cynnwys mewn modelau plismona.

"Bydd gan y Ganolfan rôl bwysig i'w chwarae wrth ddarparu tystiolaeth o'r fath ac mae'r Adran yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw i godi proffil plismona gwledig."

Mae Dyfed- Powys yn cwmpasu’r ardal fwyaf o unrhyw heddlu yng Nghymru a Lloegr, ac mae'r heddlu wedi dweud mai troseddau mewn cymunedau gwledig yw'r her fwyaf y maent yn ei wynebu.

Bydd y ganolfan newydd yn costio tua £49,000 i’w sefydlu, gyda £5,000 yn dod oddi wrth y comisiynydd heddlu Christopher Salmon.

AU2314