Llwyddiant Sundance

Mathew David

Mathew David

24 Ionawr 2014

Mae cyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth wedi ennill gwobr yr wythnos hon yng Ngŵyl Ffilm Sundance yn Utah am ei rôl yn y ffilm ‘Burger’.

Enillodd yr actor o Gaerdydd, Mathew David, ynghyd â'r cast a'r cyfarwyddwr Magnus Mork, wobr am actio ensemble a chyfarwyddyd yn yr ŵyl.

Cafodd y ffilm fer 11 munud, a ariennir gan Wobr Ffilm Iris, ei saethu ar leoliad yng Nghaerdydd ac mae’n dilyn unigolion sy'n ymweld â bar byrgyr hwyr yn y nos.

Eglurodd Mathew, a raddiodd o Aberystwyth yn 2009, "Mae ennill y wobr mor annisgwyl, ac mae’r cyfarwyddwr a finnau mor ddiolchgar i fod yma.  Cafodd y ffilm ei dewis allan o 8600 i fod yn y 66 ffilm fer derfynol a ddangoswyd yn yr ŵyl, a oedd yn gyflawniad ynddo'i hun.

"Yn ystod fy amser yn Aber, cymerais lawer iawn o ysbrydoliaeth gan un o'r tiwtoriaid, Joan Mills, ac roedd ei chyfeiriad yn wych. Roeddwn wrth fy modd gydag egni Aberystwyth ac roedd y bobl mor gyfeillgar yno. Es i ymlaen i hyfforddi yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar ôl hynny."

"Y cynllun ar gyfer y dyfodol yw cymryd pob clyweliad a chyfle gyda dwy law ac rwy’n gobeithio gweithio ar brosiectau gwych fel yr un yma."

Cafodd yr Ŵyl Sundance ei sefydlu 30 mlynedd yn ôl gan y seren ffilm Robert Redford.

AU2914