‘Gwyddoniaeth Crefydd a Chrefydd Gwyddoniaeth’

Y Parchedig John Gwilym Jones

Y Parchedig John Gwilym Jones

01 Mai 2014

Heno, dydd Iau 1 Mai 2014, bydd John Gwilym Jones yn traddodi darlith ar ‘Gwyddoniaeth Crefydd a Chrefydd Gwyddoniaeth’ ym Mhrifysgol Aberystwyth a fydd yn archwilio'r berthynas a’r potensial am wrthdaro rhwng crefydd a gwyddoniaeth.

Cynhelir y ddarlith am 6 yr hwyr yn narlithfa A14 yn Adeilad Hugh Owen.

Y mae yna ganfyddiad cyffredin fod crefydd a gwyddoniaeth yn gwrthdaro â’i gilydd. Ymgais yw’r ddarlith hon i olrhain cefndir y syniad hwn fel y’i coleddir gan ffwndamentaliaid crefyddol a gwyddonol, gan archwilio posibiliadau cydberthynas a allai fod o fudd i’r naill a’r llall.

Mae John Gwilym Jones yn un o dri brawd talentog iawn a fagwyd ar fferm Parc Nest ger Castell Newydd Emlyn. Daeth y tri brawd yn eu tro yn Brifeirdd yr Eisteddfod Genedlaethol.

Graddiodd yr ail o'r brodyr hynny, John Gwilym, gyda dosbarth cyntaf yn y Gymraeg yn Aberystwyth ac wedi blwyddyn o ddarlithio mewn Cymraeg Canol ym Mhrifysgol Dulyn aeth ati i astudio Diwinyddiaeth yn Abertawe.

Y weinidogaeth a enillodd fryd yr egin ysgolhaig a chafodd alwad i Fethania, Y Tymbl, cyn symud ym 1967 i Eglwys Annibynnol, Pendref, Bangor lle bu'n gwasanaethu am ddeugain mlynedd.

Mae'n heddychwr o argyhoeddiad, yn Gristion cadarn ei ffydd ac yn eciwmenydd wrth reddf.

Dywedodd Is-Ganghellor y Brifysgol, yr Athro April McMahon; “Mae John Gwilym Jones yn Gymro tanbaid - eang ei ddiddordebau - o bêl-droed i gynganeddu, o dalyrnau i'r eisteddfod. A'r mwyaf o'r rhain, yn ddiamau yw'r Eisteddfod.

“Enillodd gadair Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Cyffiniau ym 1981, bu'n Archdderwydd rhwng 1993 a 1996, a chafodd ei urddo’n Gymrawd Prifysgol Aberystwyth yn 2012.

“Yn Eisteddfod Bro Colwyn 1995 cafodd yr anrhydedd unigryw o goroni ei frawd iau, Aled Gwyn, ac o gadeirio ei fab, Tudur Dylan Jones.

“Pleser o’r mwyaf yw ei groesawu yn ôl i Brifysgol Aberystwyth i draddodi Darlith Walter Idris Jones.”

Traddodir y ddarlith yn Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd i’r Saesneg.

 

AU17314