Ail sefydlu cynefinoedd gwyllt

George Monbiot

George Monbiot

08 Mai 2014

Bydd yr ymgyrchydd a’r newyddiadurwr amgylcheddol George Monbiot yn ymweld â Phrifysgol Aberystwyth yr wythnos hon i draddodi darlith gyhoeddus ar ail sefydlu cynefinoedd gwyllt Prydain.

Bydd y ddarlith yn egluro’r syniadau sydd y tu ôl i ailsefydlu cynefinoedd gwyllt a chwalu rhai o'r mythau a'r camddealltwriaeth sydd wedi bod yn cylchredeg ers cyhoeddi ei lyfr Feral.

Mae’r term ‘ail sefydlu cynefinoedd gwyllt’ yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio adnewyddu cynefinoedd naturiol ac ardaloedd bywyd gwyllt cynhennid mewn rhannau o’r wlad lle mae’r tir wedi ei ddiraddio yn ecolegol. Mae llawer yn ystyried fod hyn yn angenrheidiol oherwydd y golled anferth o fioamrywiaeth a phroblemau amgylcheddol cynyddol.

Cafodd syniadau Monbiot eu beirniadu gan yr undebau ffermio, ond mewn rhaglen BBC Countryfile yn ddiweddar dywedodd:

“Rwy’n credu y bydd pobl yn gweld rhai o'r buddion, yn enwedig y manteision economaidd, y posibiliadau o dwristiaeth bywyd gwyllt, yr arian y gellir ei wneud trwy storio carbon a rheoli llifogydd, gallai pobl elwa llawer mwy drwy ail sefydlu cynefinoedd gwyllt ar y tir na chadw defaid yno.”

Cynhelir y ddarlith, sy’n rhad ac am ddim, ar ddydd Gwener 9 Mai, ar Gampws Llanbadarn Fawr Prifysgol Aberystwyth, ac mae’n rhan o gyfres darlithoedd Consortiwm Newid Hinsawdd Cymru. Caiff ei gyflwyno ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Tir Gwyllt Cymru, y mae Monbiot yn Noddwr arni, fel rhan o lansiad cynllun Coetir Anian yr Ymddiriedolaeth, sydd â'r nod o adfer coed gwyllt a chynefinoedd naturiol eraill ac ailgyflwyno bywyd gwyllt i rannau o Fynyddoedd y Cambria.

Bydd y digwyddiad yn cael ei darlledu ar wefan Consortiwm Newid Hinsawdd Cymru yn www.c3wales.org, lle ceir hefyd fanylion am ddarlithoedd sydd i ddod a recordiadau o ddarlithoedd a gynhaliwyd eisoes.

 

AU18314