Penodi Cyfarwyddwr Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd

Phil Maddison

Phil Maddison

16 Mai 2014

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi penodi Phil Maddison yn Gyfarwyddwr Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd.

Cyn ei benodi, roedd Phil yn Rheolwr Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd dros dro. Mae ganddo dros 15 mlynedd o brofiad mewn rolau arwain Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd cymhleth ac amrywiol ar gontractau’r llywodraeth, ac ar draws y sectorau cyhoeddus â phreifat.  Cychwynnodd Phil yn ei rôl newydd ar y 12 Fai.

Mae ei gymwysterau niferus yn cynnwys bod yn Aelod Siartredig o'r Sefydliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol, Ymarferydd Diogelwch Cofrestredig, yn ogystal â bod yn aelod o Sefydliad Rhyngwladol Rheoli Risg a Diogelwch, a'r Sefydliad Rheolaeth Siartredig.   

Cyn ymuno â'r Brifysgol, bu Phil yn gweithio mewn diwydiannau sy’n cael eu rheoleiddio’n drwm, gan gynnwys y llywodraeth a sectorau cyhoeddus yn y Dwyrain Canol ac ar draws y DG. 

Wrth sôn am ei benodiad, dywedodd Rebecca Davies, Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Gwasanaethau Myfyrwyr a Staff: "Rwy'n falch iawn o allu croesawu Phil i'r Brifysgol. Mae iechyd, diogelwch a lles ein myfyrwyr, staff ac ymwelwyr i’n Prifysgol yn hollbwysig. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda Phil i ddatblygu ymhellach ein hagenda iechyd a lles yn Aberystwyth, ac i barhau i ddarparu Prifysgol ddiogel ac iach." 

Dywedodd Phil Maddison: "Rwyf wrth fy modd fy mod wedi fy mhenodi i’r swydd allweddol hon o fewn y Brifysgol ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda chydweithwyr i sicrhau bod ein Prifysgol, fel sefydliad cymhleth ac amrywiol, yn iach ac yn ddiogel."

 

AU21914