Yr Urdd a’r Brifysgol

21 Mai 2014

Prifysgol Aberystwyth fydd un o brif noddwyr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd unwaith eto, ac eleni cynhelir yr Eisteddfod ar Ffarm Rhiwlas, y Bala, rhwng y 26-31 o Fai 2014.

Ers 17 mlynedd bellach, y Brifysgol yw darparwr cyswllt gwe swyddogol i’r cyhoedd ar y maes yn ei Chaffi Gwe, yn y Ganolfan Groeso.

Galluoga’r gwasanaeth hwn i’r sawl sy’n ymweld â’r Eisteddfod i ddarganfod yr wybodaeth ddiweddaraf ac i ddanfon a derbyn e-byst yn rhad ac am ddim.

Dena Eisteddfod yr Urdd dros 100,000 o ymwelwyr, 15,000 o gystadleuwyr, ac ymron i filiwn o wylwyr teledu yn flynyddol.

Yn ogystal â’r Caffi Gwe, bydd Prifysgol Aberystwyth hefyd yn noddi digwyddiadau chwaraeon yr Urdd yn ystod yr ŵyl.

Aiff cefnogaeth y Brifysgol i Adran Chwaraeon Urdd Gobaith Cymru tu hwnt i ffiniau’r Eisteddfod yn unig. Ers blynyddoedd lawer, mae’r Brifysgol wedi gweithio’n agos gyda’r adran i drefnu eu cyrsiau hyfforddi.

Mae Eisteddfod yr Urdd, un o wyliau diwylliannol ieuenctid mwyaf Ewrop, yn ŵyl Gymraeg blynyddol lle dethlir llenyddiaeth, cerddoriaeth, a’r celfyddydau perfformiadol. Fe’i trefnir gan Urdd Gobaith Cymru, prif fudiad ieuenctid Cymru.

Am fwy o wybodaeth ar ddigwyddiadau'r Brifysgol yn ystod yr wythnos, ewch i: https://www.aber.ac.uk/cy/schools-liaison/events/urdd/

AU22714