Diswyddo aelod o staff

Yr Hen Goleg

Yr Hen Goleg

23 Mai 2014

Mae’n flin gan Brifysgol Aberystwyth gadarnhau fod yr Athro Cox wedi ei ddiswyddo heddiw o'i swydd yn Adran y Gyfraith a Throseddeg. Gan ystyried diddordeb a budd y cyhoedd, a’r sylw mae hyn yn debygol o’i ddenu, mae'r Brifysgol, ar ôl ystyriaeth ofalus, wedi penderfynu gwneud datganiad byr, ffeithiol ar y mater hwn.

Yn dilyn ymchwiliad trylwyr i nifer o honiadau difrifol, yn unol â gweithdrefn y Brifysgol, gofynnwyd i banel disgyblu annibynnol (o dan gadeiryddiaeth cyfreithiwr allanol) gwrdd i ystyried amrywiaeth o honiadau yn erbyn yr Athro Cox. Canfu'r panel bod yr Athro Cox wedi cyflawni achosion difrifol o dorri Rheoliadau a Gweithdrefnau Ariannol, gofynion diogelu data, dyletswydd y Brifysgol o ofal tuag at aelod o staff, ac nid oedd y Brifysgol yn fodlon gydag esboniadau'r Athro Cox.

O ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd, difrifoldeb y canfyddiadau hyn, a holl elfennau’r achos, mae'r Brifysgol wedi derbyn argymhelliad clir y panel i derfynu  cyflogaeth yr Athro Cox gyda'r Brifysgol.

Mae'r Brifysgol yn cydnabod fod gan yr Athro Cox yr hawl i apelio i banel annibynnol pellach, yn unol â'r broses a ddiffinnir yn glir gan bolisi'r Brifysgol. O ganlyniad, ni fydd y Brifysgol yn gwneud sylwadau pellach ar yr achos hwn ar hyn o bryd.

AU22914