Byd Plentyn - Y Camau Nesa

Trefnydd y gynhadledd, yr Athro Malcolm Thomas

Trefnydd y gynhadledd, yr Athro Malcolm Thomas

25 Mehefin 2014

Mae cynhadledd ryngwladol dridiau gyda'r nod o wella cydweithio ymhlith gweithwyr proffesiynol ym maes addysg plant, creu polisïau effeithiol a rhannu arfer gorau mewn astudiaethau plentyndod yn agor ym Mhrifysgol Aberystwyth heddiw, 25 Mehefin.

Mae'r gynhadledd, 'Byd Plentyn - Y Camau Nesaf', yn cael ei chynnal dros dri niwrnod, 25 tan 27 Mehefin. Mae rhaglen lawn yn gynhadledd ar gael yma.

Mae'r gynhadledd yn adeiladu ar lwyddiant cynhadledd 'Byd Plentyn: Gweithio Gyda'n Gilydd am Ddyfodol Gwell' gafodd ei chynnal yn 2012, gan ganolbwyntio ar gysyniadau newydd mewn Codi Safonau, Datblygu Cwricwlwm, Diogelu Plant a rhannu arfer gorau mewn astudiaethau plentyndod o fewn dimensiwn strategol rhyngwladol.

Trefnir y gynhadledd bob dwy flynedd gan Adran Addysg a Dysgu Gydol Oes y Brifysgol.  Bydd y gynhadledd yn cynnwys cyfraniadau gan arbenigwyr o bob cwr o'r byd gyda mwy na 100 o bapurau yn cael eu cyflwyno dros y tri diwrnod.

Ymysg y gwledydd fydd yn cael eu cynrychioli mae Awstralia, Canada, UDA, Tsieina, Malaysia, yr Iseldiroedd, y Ffindir, Ffrainc, De Affrica, Nigeria, Saudi Arabia, yr Eidal, Portiwgal, Seland Newydd, Groeg, Iwerddon, yr Alban, Lloegr a Chymru.

Bydd yr Athro Malcolm Thomas, Cyfarwyddwr Adran Addysg a Dysgu Gydol Oes y Brifysgol, yn lansio llyfr, ‘Byd Plentyn’, sy'n ymdrin รข materion cyfoes mewn addysg a ddatblygwyd o'r papurau trafod gafodd eu cyflwyno yn y gynhadledd yn 2012.

Esbonia’r Athro Thomas; "Bydd y gynhadledd hon yn tynnu ar arbenigwyr o fewn y meysydd astudiaethau addysg a phlentyndod ac yn galluogi rhannu a lledaenu arfer da ar draws arfer ac ymchwil proffesiynol.

“Mae themâu'r gynhadledd yn berthnasol i Gymru, ond maent hefyd yn bwysig ac yn berthnasol i wledydd eraill. Y gobaith yw y bydd y gynhadledd hon yn gweithredu fel symbyliad ar gyfer rhwydweithio pellach mewn ymchwil ac ymarfer proffesiynol mewn dimensiwn byd-eang."

Ymysg y prif siaradwyr mae Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Addysg a Sgiliau, Huw Lewis AC, Yr Athro James Brad Hale o Brifysgol Calgary Canada, yr Athro Jari Lavonen o Brifysgol Helsinki yn y Ffindir a'r Athro Nigel Thomas o Brifysgol Central Lancashire.

Er yn canolbwyntio'n bennaf ar gynulleidfa broffesiynol ac ymchwil mewn addysg, bydd y canfyddiadau yn berthnasol ar draws ystod o ddisgyblaethau, gan gynnwys llunio polisi llywodraethol, gofal cymdeithasol, a darparu gwasanaethau cyhoeddus.

Bydd cwmpas eang y gynhadledd yn gymwys iawn i lywodraeth ryngwladol, genedlaethol, rhanbarthol a lleol, ynghyd â gweithwyr addysg proffesiynol ac fe fydd o ddiddordeb uniongyrchol i'r cyhoedd yn gyffredinol.

 

AU25414