Staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn diolch i gefnogwyr hael

Yn y llun (o'r chwith i'r dde) mae Poppy Woods, sydd wedi derbyn Ysgoloriaeth Richard ac Ann Roberts; Lloyd Spence, cyn alwr gyda’r Gronfa Flynyddol ac aelod o Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni’r Brifysgol; Yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; Liza Kellett, Prif Swyddog Gweithredol y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru; a Nathan Baines sydd wedi derbyn Ysgoloriaeth Stuart Rendel.

Yn y llun (o'r chwith i'r dde) mae Poppy Woods, sydd wedi derbyn Ysgoloriaeth Richard ac Ann Roberts; Lloyd Spence, cyn alwr gyda’r Gronfa Flynyddol ac aelod o Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni’r Brifysgol; Yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; Liza Kellett, Prif Swyddog Gweithredol y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru; a Nathan Baines sydd wedi derbyn Ysgoloriaeth Stuart Rendel.

29 Hydref 2014

Mae myfyrwyr a staff ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gwisgo rhubanau porffor yr wythnos hon a’r wythnos nesaf (30 Hydref - 6 Tachwedd) i nodi Wythnos Dyngarwch yng Nghymru ac i fynegi eu gwerthfawrogiad o’r bobl sydd wedi cyfrannu’n ariannol tuag at y Brifysgol ar hyd y blynyddoedd.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn bartner swyddogol Wythnos Dyngarwch Cymru, sy’n cael ei chydlynu gan Sefydliad Cymunedol yng Nghymru i ddathlu, hybu ac archwilio dyngarwch yng Nghymru.

Yn 1867, gyda chymorth Syr Hugh Owen, fe brynwyd yr Hen Goleg ag arian a godwyd gan bobl Cymru, pobl leol Aberystwyth ac unigolion oedd yn teimlo yn gryf dros sefydlu prifysgol yng nghanolbarth Cymru.

Roedd y tir lle mae Campws Penglais wedi’i adeiladu arno, ynghyd â thua 400 erw o dir, yn rhodd gan yr Arglwydd Stuart Rendel, Joseph Davies Bryan a David Alban Davies i'r Brifysgol yn y 1880au.

Yn 1875 dynodwyd y Sul olaf ym mis Hydref yn ‘Sul y Brifysgol’  gan gapeli drwy Gymru ac fe gasglwyd £3,100 tuag at y Coleg yn Aberystwyth, gyda mwy na 70,000 o bobl yn cyfrannu symiau bychain ar y cyfan.

Ym mis Medi eleni, dyfarnwyd ysgoloriaeth, bwrsariaeth neu rodd i fwy na 600 o fyfyrwyr â phob wedi’u hariannu trwy roddion a chymynroddion gan unigolion a chymdeithasau.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig un o’r ystod gorau o ysgoloriaethau, bwrsariaethau a rhodio o blith holl brifysgol y Deyrnas Gyfunol yn ôl Adroddiad ‘Higher Expectations’ 2013-14 gan YouthSight (OpinionPanel Research).

Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; “Yn wahanol i lawer o sefydliadau, mae’r holl ddyfarniadau yn agored i fyfyrwyr o bob rhan o'r Deyrnas Gyfunol. Mae ein hysgoloriaethau academaidd ynghyd â'n bwrsariaethau sy'n ddibynnol ar incwm, yn golygu bod tua 80% o'n myfyrwyr yn derbyn ysgoloriaeth, bwrsari neu ddyfarniad o ryw fath, sydd yn gymhelliad gwych i astudio yma.”

Ychwanegodd, “Ers sefydlu’r Brifysgol ym 1872, mae wedi derbyn rhoddion a chymynroddion hael sy'n ei gwneud yn bosibl i roi cymorth ariannol i fyfyrwyr sydd am astudio yn Aberystwyth a mwynhau'r manteision o Addysg Uwch."

Yn ogystal â'r uchod, roedd y Ganolfan Chwaraeon, yr Ystafelloedd Ymgynnull yn 10 Maes Lowri a chaeau chwarae Blaendolau i gyd yn rhodd i'r Brifysgol gan Gymdeithas y Cyn-fyfyrwyr.

Roedd teulu’r Davies’ o Landinam hefyd yn gymwynaswyr mawr i’r Brifysgol. Yn 1903, ariannodd y teulu'r gost o adeiladu labordai cemeg newydd ac yn 1919, galluogodd rhodd ariannol gan David Davies a’u chwiorydd, Gwendoline a Margaret i’r Brifysgol sefydlu cadair mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol, a thrwy hynny, dorri tir newydd a chreu disgyblaeth prifysgol hollol newydd.

Roedd Gwendoline a Margaret Davies hefyd ymhlith cymwynaswyr yr Ysgol Gelf ynghyd â George Powell o Nanteos, Syr John Williams, Dr Elvet Lewis, Marian Evans-Quinn yn ogystal â ffrindiau a chyn-fyfyrwyr y Brifysgol. 

Mae’r Brifysgol yn parhau i elwa o ddyngarwch hael cefnogwyr tuag at ysgoloriaethau a bwrsariaethau. Yn 2009 lansiwyd Cronfa Flynyddol Prifysgol Aberystwyth ac ers hynny cyfrannwyd dros £500,000 gan gymuned y cyn-fyfyrwyr.

Cynhaliwyd noson i drafod yr hyn sydd gan ddyngarwch i'w gynnig i bobl ifanc mewn addysg uwch gan Brifysgol Aberystwyth ac fe’i hwyluswyd gan y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru ar nos Iau 30 Hydref.

Dywedodd Louise Jagger, Cyfarwyddwraig Datblygu a Chysylltiadau Alumni Prifysgol Aberystwyth; “Rydym yn falch iawn o fod yn bartner swyddogol Wythnos Dyngarwch Cymru. Drwy ddathlu ac anrhydeddu’r gorffennol, rydym yn gosod y seiliau ar gyfer galluogi cenedlaethau’r dyfodol i gyfrannu a chefnogi’r bobl ifanc sy’n dymuno astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn gynnar yn 2015, bydd y Brifysgol yn adnewyddu ei huchelgais ac yn lansio’i rhaglen godi arian am y 5 mlynedd nesaf ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at gynnwys aelodau o deulu Aberystwyth, bod nhw’n gyn-fyfyrwyr, yn aelodau staff neu’n gefnogwyd, wrth i ni adeiladu ar lwyddiant y gorffennol.”

Gellir cael rhagor o wybodaeth am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a gwobrau'r Brifysgol yma.

Gellir gweld rhestr enillwyr Ysgoloriaethau Mynediad 2014 yma.

I gael gwybod sut y gallwch chi gefnogi Prifysgol Aberystwyth ewch i: http://www.aber.ac.uk/cy/development/support/

AU45114