Sefydliad Coffa David Davies yn rhoi llwyfan i “Etty”

Susan Stein as “Etty”

Susan Stein as “Etty”

03 Chwefror 2015

"Etty", drama un-fenyw a berfformir gan Susan Stein, yw’r digwyddiad diweddaraf i’w gynnal gan Sefydliad Coffa David Davies (DDMI).

Cynhelir y perfformiad ar Ddydd Mawrth, 3 Chwefror am 5.30pm ym Mhrif Neuadd Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Mae drama Stein yn addasiad o ddyddiaduron Etty Hillesum sy’n bortread o brofiad gwraig ifanc Iddewig yn yr Iseldiroedd yn ystod gormesiad y Natsïaid yn 1941. Cafodd ei disgrifio fel “Mwy na dim ond perfformiad - roedd yn brofiad a rannwyd”.

Mae'r perfformiad yn cwmpasu profiadau theatrig ac addysgol a gynlluniwyd i herio cyfranogwyr i ail-archwilio rhagdybiaethau am yr Holocost.

Ymysg y materion y mae’r ddrama’n eu crybwyll mae gwrthsafiad, hawliau dynol, cyfiawnder cymdeithasol a chyfrifoldeb unigol mewn amgylchiadau eithafol.

Cyfarwyddwr y ddrama, sydd wedi cael ei pherfformio mewn theatrau blwch du, stiwdios, llyfrgelloedd, ysgolion a theatrau mawr ledled y byd, yw Austine Pendleton.

Bydd trafodaeth gyda Stein yn dilyn y perfformiad.

AU4015