Wythnos Werdd Prifysgol Aberystwyth, 16-20 Chwefror

Wythnos Werdd

Wythnos Werdd

13 Chwefror 2015

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal ei 'Wythnos Werdd' gyntaf o ddydd Llun 16 tan ddydd Gwener 20 Chwefror 2015.

Trefnir yr wythnos gan Dîm Cynaliadwyedd y Brifysgol ar y cyd gydag Undeb Myfyrwyr Aberystwyth.

Bydd cyfres o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnos, gan gynnwys nosweithiau ffilm, teithiau cerdded campws, a sesiwn lanhau’r traeth.

Ar ddydd Mercher 18 Chwefror bydd staff a myfyrwyr yn cael eu hannog i wisgo gwyrdd i godi arian at WWF Cymru.

Bydd stondin ar waith yn Undeb y Myfyrwyr drwy gydol yr wythnos ac arddangosfa yn Llyfrgell Hugh Owen.

Nod yr wythnos yw codi ymwybyddiaeth o, a mynd i'r afael â materion amgylcheddol a chynaliadwyedd ar draws y campws.

Dywedodd Janet Sanders, Cynghorydd Ynni Prifysgol Aberystwyth: “Hon fydd yr Wythnos Werdd gyntaf erioed i’w chynnal gan Brifysgol Aberystwyth. Mae diddordeb a chefnogaeth y myfyrwyr a’r staff yn dangos yn glir eu hymrwymiad a'u brwdfrydedd i sicrhau bod Prifysgol Aberystwyth mor gynaliadwy ag y gall fod. Mae'r ystod eang a chyffrous o weithgareddau’n tynnu ynghyd yr holl bethau gwych yr ydym eisoes yn eu gwneud ac yn dymuno eu gwneud.”

Uchafbwynt yr wythnos fydd digwyddiad arbed ynni 'Diffodd Popeth' Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr ar ddydd Gwener yr 20fed.

Mae hwn yn dilyn digwyddiad 'Diffodd Popeth' ym mis Tachwedd pan aeth mwy na 50 o wirfoddolwyr, yn staff ac yn fyfyrwyr, ati i ddiffodd cyfrifiaduron, sgriniau a gwefrwyr a oedd wedi eu gadael ymlaen.

Dros y penwythnos, gwelwyd gostyngiad o 22% yn yr ynni a ddefnyddiwyd yn y pum adeilad a oedd yn rhan o’r ymgyrch.

Petai hyn yn cael ei weithredu ar draws y campws, byddai’n cyfateb i arbediad o £60,000 a 312 tunnell o garbon bod blwyddyn.

Gall myfyrwyr sy’n dymuno gwirfoddoli i gynorthwyo ar 'Diffodd Popeth' wneud hynny ar lein.

Mae rhaglen lawn o ddigwyddiadau ar gael yma.

AU6215