Penodi i Fwrdd Ymgynghorol Gwyddonol Cronfa Pontio Gwyddorau Bywyd

Dr Rhian Hayward

Dr Rhian Hayward

12 Mehefin 2015

Penodwyd Dr Rhian Hayward o Brifysgol Aberystwyth i Fwrdd Ymgynghorol Gwyddonol newydd Cronfa Pontio Gwyddorau Bywyd.

Cafodd penodiad Dr Hayward, sy’n Rheolwr Datblygu Busnes yn adran Ymchwil, Arloesi a Busnes y Brifysgol, ei gyhoeddi gan Weinidog yr Economi a Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru, Edwina Hart, ar ddydd Mercher 10 Mehefin.

Bydd y Bwrdd yn cynghori ar reolaeth a chyflawni amcanion Cronfa Pontio Gwyddorau Bywyd £3m ar ran Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.

Bydd yn argymell prosiectau i'w cymeradwyo a bod yn gyfrifol am ddarparu mentora a hyfforddi sylweddol i ymgeiswyr llwyddiannus a photensial.

Rhagwelir y bydd y Gronfa Pontio yn cefnogi hyd at 20 o'r prosiectau ymchwil gorau oll dros ddwy flynedd, gwneud y mwyaf o’u buddion masnachol ac i droi'r prosiectau ymchwil gwyddonol mwyaf addawol yn fusnesau newydd, gan ysgogi twf pellach yn y sector, a chreu cyfleoedd cyflogaeth o ansawdd uchel.

Mae Dr Hayward yn un o 9 sydd wedi eu penodi i’r bwrdd; y lleill yw Dr David Owen - Cadeirydd, yr Athro Javier Bonet, Dr Alison Campbell, Dr Peter Corish, Dr Colin Greengrass, yr Athro Jackie Hunter, Athro Chris McGuigan, yr Athro Dawood Parker. Tair blynedd yw cyfnod y penodiadau.

Dywedodd Mrs Hart: "Rwyf wrth fy modd â safon y rhai a ymgeisiodd am le ar y Bwrdd, â chyfoeth ac ehangder y profiad maent yn ei gynnig. Mi fydd ganddynt rôl allweddol wrth droi ymchwil o'r radd flaenaf yn fusnesau hyfyw yn fasnachol yng Nghymru, a bydd eu gwybodaeth, gallu ac arbenigedd yn amhrisiadwy.

"Mae angen trosi’r gwaith ymchwil rhagorol sy'n cael ei wneud yn y sector hon yng Nghymru yn fusnesau newydd, a dyma le mae darparu mentora a hyfforddi sylweddol i ymgeiswyr llwyddiannus a photensial yn hanfodol bwysig.

"Bydd y gronfa Bontio'n eistedd ochr yn ochr â'r gronfa Buddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru i ddarparu llwybr cydlynol i sicrhau manteision economaidd ardderchog ar gyfer economi Cymru.

"Hoffwn ddiolch i aelodau'r Bwrdd sydd newydd eu penodi am eu diddordeb mewn datblygu'r sector yng Nghymru a'u parodrwydd i roi o'u hamser i helpu i adeiladu'r genhedlaeth nesaf o fusnesau gwyddorau bywyd.”

Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: "Mae hwn yn newyddion gwych i Dr Hayward ac i Brifysgol Aberystwyth. Gyda chefndir mewn biotechnoleg Dr Hayward yw Rheolwr Datblygu Busnes y Brifysgol: mae ei gwaith ym maes trosglwyddo gwybodaeth ac ymwneud â busnes o fewn y sector prifysgolion a’i phrofiad helaeth o gynghori buddsoddwyr, prifysgolion a busnesau bach a chanolig ar fasnacheiddio technolegau gwyddor bywyd cynnar yn ei gwneud yn apwyntiad delfrydol. Mae hefyd yn adlewyrchu pwyslais Aberystwyth ar fasnacheiddio ymchwil ar draws nifer o ddisgyblaethau, ac yn arbennig drwy ddatblygiad campws Arloesedd a Menter £40 miliwn newydd y Brifysgol".

Dr Rhian Hayward

Cyn ei phenodiad fel Rheolwr Datblygu Busnes ym Mhrifysgol Aberystwyth, bu Dr Rhian Hayward yn gweithio am 4 blynedd ym maes Trosglwyddo Technoleg yn y Brifysgol, gan reoli ceisiadau patent, cyllid ar gyfer prosiectau datblygu technoleg a thrwyddedu i ddiwydiant.

Cyn ymuno â'r Dr Hayward y Brifysgol yn gweithio yn y sector preifat am 15 mlynedd a sefydlodd gwmni ymgynghori a oedd yn cynghori buddsoddwyr, prifysgolion a busnesau bach a chanolig ar fasnacheiddio technolegau gwyddor bywyd cynnar.

Yn raddedig o Goleg y Brenin Llundain, enillodd Dr Hayward ei DPhil ym Mhrifysgol Rhydychen a gwnaeth ei gwaith ymchwil ôl-ddoethurol yn y Labordy Clefydau Parasitig, NIH, UDA.

Ar hyn o bryd mae Dr Hayward yn aelod o Fwrdd Ymgynghorol Datblygu Diwydiannol Cymru sy'n cynghori Gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ar gymorth ariannol i ddiwydiant yng Nghymru.

AU19215