Meillion lwcus â phedair deilen yn yr is-arctig yn werthfawr i fridio planhigion yn y dyfodol

20 Awst 2015

Gall meillion â phedair deilen a ddarganfuwyd ar hap yn yr is-arctig fod yn werthfawr i ymchwil bridio planhigion yn y dyfodol.

Daeth myfyrwyr yn IBERS o hyd i feillion lwcus ar daith maes diweddar tra’n astudio Ecoleg yr Arctig mewn pentref o’r enw Abisko yn Lapdir Sweden.

Yn ogystal â gweld nifer o rywogaethau o blanhigion Arctig-alpaidd, daeth y myfyrwyr hefyd o hyd i nifer o blanhigion meillion coch (Trifolium pratense L.). Roedd y rhain yn tyfu mewn ardaloedd prysur ger y llwybrau, tai a'r rheilffordd. O edrych yn agosach gwelodd y myfyrwyr bod nifer sylweddol o blanhigion â phedair, pump a hyd yn oed chwe deilen.

Mae IBERS yn ganolfan ymchwil ac addysgu sydd wedi’i chydnabod yn rhyngwladol ac yn arweinydd byd mewn glaswellt a bridio meillion ac mae gan yr Athrofa raglen fridio meillion coch sy’n ceisio gwella cynnydd cynnyrch deunydd sych sy’n gwrthsefyll plâu a chlefydau.

Mae Abisko yn bentref bychan yng ngogledd Sweden, 200km i'r gogledd o'r Cylch Arctig. Mae'r ardal yn gyrchfan poblogaidd i dwristiaid sy'n ymweld â Pharc Cenedlaethol Abisko ac mae’r gwyddonwyr ecolegol yn cynnal ymchwil ar effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Dros ganrif yn ôl, daeth y diwydiant mwyn haearn â‘r rheilffordd drwy'r pentref, yn ddiddorol  fe’i hadeiladwyd gan lawer o weithwyr o Iwerddon, gan arwain rhai i gwestiynu ai’r Ynys Werdd yw tarddiad gwreiddiol planhigion meillion Abisko.

Meddai Kate Gwynn sy’n fyfyriwr Ecoleg "Rydym wedi gweld rhywfaint o fywyd gwyllt a phlanhigion rhyfeddol yn yr ardal hon ond nid oeddem yn disgwyl gweld meillion â phedair deilen yn rhanbarth is-arctig."

Ychwanegodd Hattie Roberts sy’n fyfyriwraig Bioleg Planhigion, "Roedd hwn yn dipyn o ddarganfyddiad i ni o ystyried yr hyn mae IBERS yn ei wneud! "

Meddai’r bridiwr planhigion ac arweinydd Grŵp Bridio Planhigion IBERS, yr Athro Athole Marshall " Mae meillion pedair deilen wrth gwrs yn anghyffredin iawn ac nid ydym yn deall yn llwyr os yw’r bedwaredd ddeilen yn cael ei achosi gan ffactorau genetig neu amgylcheddol neu gyfuniad o'r ddau.

Yn amlwg mae’r planhigion arbennig yma eisoes yn bodoli o dan amodau amgylcheddol eithafol a byddai'n ddiddorol gweld sut iddynt gyrraedd yno a sut maen nhw’n gysylltiedig â phlasm cenhedlu meillion coch mewn rhannau eraill o'r wlad ac yn fwy eang ar draws Ewrop.

Gall y ffactorau sy'n cyfrannu at well cynnyrch a gwytnwch o dan amodau garw tebyg i’r rheiny yn Sweden, fod yn werthfawr i'r rhaglen bridio planhigion".