Myfyrwraig ar drywydd cathod creulon

Cath, cyfaill anwesol neu lofrydd dieflig?

Cath, cyfaill anwesol neu lofrydd dieflig?

09 Hydref 2015

Wedi'i hysbrydoli gan gyfres dditectif ‘Y Gwyll’ mae Henriette Wisnes, myfyrwraig Gwyddor Anifeiliaid ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn ymchwilio i pam y mae cathod yn lladd cymaint o anifeiliaid eraill.

Anifeiliaid anwes patholegol neu gathod wedi eu camddeall?

Credir fod miliynau o anifeiliaid yn cael eu 'dileu' gan ein bwndeli bach gwerthfawr o lawenydd bob blwyddyn. Ond a yw bwydlen ein cyfeillion blewog yr un ar draws y wlad? Neu a oes yn well ganddynt gynnyrch lleol? Ac a yw cathod rhai gwledydd yn ffyrnicach nac eraill?

Gan ddefnyddio ffurflen ar-lein syml gofynnir i’r cyhoedd ddatgelu cyfrinachau bwyta eu cathod. Eisoes mae mwy na 250 o gyfranogwyr o'r DG a chyfandir Ewrop wedi ymateb.

Mae Henriette, sydd yn ei thrydedd flwyddyn yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ymchwilio i sut y gall greddf hela naturiol mewn cathod effeithio ar fywyd gwyllt lleol.

Pan ofynnwyd beth mae 'Fluffy' yn ei dwyn adref, dywedodd: “Ymddengys fod yn well gan rai cathod yr hyn y byddai rhywun yn ei ddisgwyl: y llygod ac adar arferol. Mae gan eraill chwaeth fwy anarferol: Bu un perchennog yn anfodlon yn enwedig pan ddaeth o hyd i neidr y gwair fyw yn ei lolfa!”.

Dim ond ychydig funudau sydd angen i gwblhau’r holiadur, ac mae croeso i unrhyw un sy'n berchen ar gath gymryd rhan yn yr ymchwiliad. Gellir dod o hyd i'r ffurflen ar http://bit.ly/1j9lE3c

“Er bod gweithgarwch dynol wedi cael gwared ar lawer o brif anifeiliaid ysglyfaethus o lawer o orllewin Ewrop, rydym wedi disodli rhai o'u heffeithiau rheibus drwy ein hoffter o gathod” meddai Dr Rupert Marshall, Darlithydd mewn Ymddygiad Anifeiliaid, sy'n goruchwylio prosiect Henriette yn IBERS.

“Mae pobl yn effeithio ar eu hamgylchedd mewn amrywiaeth o ffyrdd, o sŵn a llygredd cemegol i gynefinoedd a newid yn yr hinsawdd  ac mae anifeiliaid anwes yn eitem arall ar y rhestr. Mae Henriette yn ymchwilio i natur eu heffeithiau”.

Nid yw ymchwil Henriette yn newyddion digalon i gyd - mae hefyd yn datgelu’r amrywiaeth o anifeiliaid gwyllt sydd i'w gweld yn agos at anheddau dynol: nid tylwyth teg yn unig sydd ar waelod eich gardd.

A beth mae’r cathod yn feddwl? Mae un gath y ffordd oedd yn well ganddynt aros yn ddienw, yn cyfaddef "Rwy'n gwybod ei fod yn ddrwg, ond maent yn blasu'n mor llygodlyd!"

Mae Ymddygiad Anifeiliaid yn un o'r pynciau mwyaf poblogaidd ymhlith myfyrwyr yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig yn IBERS ac yn cael ei astudio gan fyfyrwyr ar gynlluniau gradd o Gwyddor Anifeiliaid i Sŵoleg. Mae pob myfyriwr IBERS yn cael cyfle i gynnal prosiect ymchwil yn ei f/blwyddyn olaf.

Dewch i glywed mwy am gyfleoedd ar gyfer ymchwil ymddygiad ym Mhrifysgol Aberystwyth a chwrdd â Dr Marshall a'i gydweithwyr yn un o'r Diwrnodau Agored sydd ar y gweill ar Ddydd Sadwrn 17eg 0 Hydref a Dydd Sadwrn y 7fed o Dachwedd.

IBERS
Cydnabyddir yr Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn rhyngwladol fel canolfan ymchwil ac addysgu sy’n cynnig sylfaen unigryw ar gyfer ymchwil mewn ymateb i heriau byd-eang fel diogelwch bwyd, bioynni a chynaladwyedd, ac effeithiau newid yn yr hinsawdd. Mae gwyddonwyr IBERS yn cynnal ymchwil sylfaenol, strategol a chymhwysol mewn bioleg o lefel genynnau a moleciwlau eraill, i effaith newid hinsawdd.

Mae IBERS yn derbyn £10.5m o gyllid ymchwil strategol gan y BBSRC i gefnogi ymchwil tymor hir sy’n cael ei arwain gan genhadaeth, ac mae’n aelod o’r Athrofeydd Biowyddoniaeth Cenedlaethol. Mae IBERS hefyd yn derbyn cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, DEFRA a’r Undeb Ewropeaidd.

AU32715