Penodi’r Athro Richard Beardsworth yn Gyfarwyddwr Moeseg

Yr Athro Richard Beardsworth

Yr Athro Richard Beardsworth

19 Hydref 2015

Mae Dr Richard Beardsworth, Athro Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, wedi ei benodi i swydd Cyfarwyddwr Moeseg y Brifysgol.

Ymunodd yr Athro Beardsworth â Phrifysgol Aberystwyth yn 2013 o Brifysgol Ryngwladol Florida lle bu'n Athro Damcaniaeth Rhyngwladol. Cyn hyn roedd yn Athro Athroniaeth Wleidyddol a Chysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Americanaidd Paris.

Fel Cyfarwyddwr Moeseg, bydd yr Athro Beardsworth goruchwylio’r gwaith o ddatblygu, hyrwyddo a sicrhau cyfeiriad strategol y Brifysgol mewn moeseg.

Bydd hefyd yn gweithredu fel 'hyrwyddwr' moeseg y Brifysgol ac yn gweithio i sicrhau bod gwaith ymchwil, gan aelodau staff academaidd a myfyrwyr, yn cyrraedd safonau moesegol uchel a disgwyliadau.

Bydd yr Athro Beardsmore yn dal y swydd ochr yn ochr â’i rôl academaidd yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae’n bleser mawr gen i groesawu'r Athro Beardsworth fel Cyfarwyddwr Moeseg newydd y Brifysgol. Mae moeseg yn ganolog i ymchwil ac edrychaf ymlaen at weithio gydag ef a chydweithwyr ar draws y Brifysgol wrth i ni adeiladu enw da Aberystwyth fel cymuned foesegol lythrennog.”

Wrth siarad am ei benodiad, dywedodd yr Athro Beardsworth: “Mae swydd Cyfarwyddwr Moeseg yn un heriol iawn ar hyn o bryd. Mae tirwedd Addysg Uwch yn y Deyrnas Gyfunol yn newid yn gyflym, ac mae'n bwysig bod Prifysgol Aberystwyth yn ymateb i'r newidiadau hyn mewn modd rhagweithiol.

“Yng nghyd-destun datblygiad strategol, rwy’n gweld fy mhrif rôl yn un lle y byddaf yn gosod fframwaith moesegol yn ei le ar gyfer y Brifysgol gyfan. Dylai'r fframwaith hwn fod yn fyr, yn parchu rhyddid academaidd, ond hefyd yn  adlewyrchu’r hyn y mae'r gymuned yma ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ystyried yn hunaniaeth gymdeithasol a moesegol benodol ac eithriadol mewn addysg uwch ac ymchwil. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr i'r perwyl hwn.”

Yn ystod ei yrfa mae’r Athro Beardsworth wedi gweithio ym maes polisi cyhoeddus rhyngwladol (OECD, Asiantaeth Ynni Ryngwladol ac UNESCO, Paris).

Ers troi at wleidyddiaeth ryngwladol fel athronydd gwleidyddol hyfforddedig, mae wedi bod yn ymwneud yn gynyddol â’r bwlch rhwng arferion normadol ac empeiraidd yng ngwleidyddiaeth y byd, a’r diffyg gweledigaeth wleidyddol ac arweinyddiaeth fyd eang y mae’r rhaniad hwn yn ei gynnal.

Mae ei diddordebau ymchwil, addysgu a deallusol i gyd yn ymwneud â chodi uwchlaw’r rhaniad hwn a meithrin cyfrifoldeb gwleidyddol at broblemau byd-eang.

Mae ar fwrdd golygyddol Global Policy ac International Political Theory, ac ar hyn o bryd mae’n ysgrifennu llyfr â’r teitl Political Responsibility in a Globalized Age.

AU33515