Myfyriwr IBERS yn Bencampwr Merched Enduro Prydain 2015

Llwyddiant i Rhian George ar ei beic modur

Llwyddiant i Rhian George ar ei beic modur

29 Hydref 2015

Rhian George, sydd yn ei thrydedd flwyddyn o astudio tuag at BSc mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn IBERS (Athrofa’r Gwyddorau  Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig) ym Mhrifysgol Aberystwyth, yw enillydd y teitl BEC Pencampwr Merched Beicio Modur Oddi ar y Ffordd Enduro Prydain 2015 yn ddiweddar.

Mae Enduro yn fath o rasio beiciau modur ar gyrsiau sydd oddi ar y ffordd yn bennaf, ac mae'n cynnwys llawer o wahanol rwystrau a heriau.

Yn wreiddiol o Caio yn Sir Gaerfyrddin, mae Rhian wedi bod yn reidio beiciau modur ers yn 11 oed ac yn rasio yn gystadleuol ers ei bod yn 13 oed.

Er gwaethaf cychwyn tymor rasio 2015 gyda damwain hyfforddi ddifrifol lle cafodd amnesia ac anafiadau i'w phen-glin, ei gwddf a’i chefn, roedd Rhian yn benderfynol o gymryd rhan yn y Bencampwriaeth a oedd yn golygu cystadlu mewn rasys ar draciau oddi ar y ffordd a oedd weithiau'n beryglus ar draws Lloegr, yr Alban a Chymru eleni.

Fe rwystrwyd cynnydd Rhian trwy rasio gydag anafiadau, yn aml dros dir anodd mewn amodau tywydd eithafol. Trwy ddyfalbarhad a goresgyn sawl anlwc gan gynnwys anafiadau dro ar ôl tro, gwaedlif trwyn difrifol, cymryd tro anghywir a hyd yn oed damwain gyda lliw haul ffug, fe lwyddodd i gipio’r Bencampwriaeth.

Meddai Rhian "Hoffwn ddiolch i fy holl noddwyr yn Freestyle am bopeth y maent wedi'i wneud i mi. Rwy’ hefyd am ddiolch i Dad a Mam am fynd â fi i bob un o'r digwyddiadau ac edrych ar fy ôl i eleni. Diolch yn fawr i bawb sy'n fy nghefnogi yn y digwyddiadau, mae'ch cefnogaeth werth y byd!

“Mae cystadlu ar lefel uchel yn ogystal ag astudio ar gyfer fy ngradd yn her. Yn ffodus allwn i ddim gofyn am adran fwy cefnogol. Maent yn ei gwneud yn bosib i mi barhau i rasio yn ogystal ag astudio ar gyfer fy ngradd, sydd wedi rhoi cyfle gwych i weithio gyda phobl broffesiynol yn IBERS sydd wedi gweithio gydag athletwyr.

“Mae hyn wedi bod yn brofiad gwych ac wedi bod yn gymorth mawr gyda fy rasio. Rwy'n hapus iawn nad ydw i wedi colli ras y tymor hwn ac i mi ennill pencampwriaeth Prydain am y trydydd tro, er gwaethaf yr holl anafiadau.

“Rwy'n hynod ffodus i fod fy mod yn rhan o adran sydd wedi bod mor gefnogol yn ogystal â bod yn ddeiliad ysgoloriaeth chwaraeon. Er fy mod wedi fy anafu ar hyn o bryd, rwy’n yn dal i edrych ymlaen yn fawr i fynd yn ôl i brofi ac ymarfer ar gyfer pencampwriaethau Prydain ac Ewrop 2016.”

“Hoffwn hefyd gymryd y cyfle hwn i ddiolch i Brifysgol Aberystwyth am fy ysgoloriaeth chwaraeon a hefyd i fy adran am ddeall a chefnogi. Mae'n wych bod pawb mor gefnogol wrth i mi fwrw ati i wireddu fy uchelgais.”

Dywedodd Dr Simon Payne, tiwtor a darlithydd Rhian mewn Chwaraeon, Ymarfer Corff a Seicoleg Iechyd yn IBERS: "Rwy'n falch iawn o Rhian - yn wir, o lwyddiant unhryw fyfyrwyr ar y raddfa hon. Mae agwedd Rhian at ennill yn disgleirio yn yr ystafell ddosbarth hefyd; mae hi’n efelychu’r feddylfryd heriol sydd yn arwain at lwyddiant ar y beic, yn yr ystafell ddosbarthu.

“Gall Rhian gyflawni pethau mawr yn y proffesiwn gwyddonol o’i dewis, ochr yn ochr â'r dyrchafiad yn y cystadlaethau Enduro y bydd hi’n cymryd rhan ynddynt ar y llwyfan Ewropeaidd y tymor nesaf.”

AU34815