Y Rhamantwyr Meintiol: Technoleg arloesol sy’n dweud wrthym (ac eraill) beth rydym wir yn ei ‘deimlo’...

Yr Athro Richard Marggraf Turley (chwith) o'r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, a’r myfyriwr ymchwil Cyfrifiadureg Tom Blanchard yn paratoi i fesur effaith nofelau a darluniau Gothig 200 mlwydd oed ar bobl.

Yr Athro Richard Marggraf Turley (chwith) o'r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, a’r myfyriwr ymchwil Cyfrifiadureg Tom Blanchard yn paratoi i fesur effaith nofelau a darluniau Gothig 200 mlwydd oed ar bobl.

11 Tachwedd 2015

Efallai y byddai wedi bod wrth fodd Byron, yn destun difyrrwch i Syr Walter Scott a chwilfrydedd i JMW Turner.

Un peth yw llunio barddoniaeth a rhyddiaith sy’n llifo, a phaentio golygfeydd lliwgar llawn emosiwn, ond pa effaith mae hyn yn ei gael ar y darllenydd neu’r gwyliwr?

Yn awr, diolch i gydweithrediad creadigol a fyddai wedi creu argraff ar bob un ohonynt, mae dau Athro o Brifysgol Aberystwyth wedi cyfuno’r Mudiad Rhamantaidd â gwyddoniaeth gyfrifiadurol yr 21ain ganrif i ddarganfod yn union hynny.

Arbrawf yw’r ‘Rhamantwyr Meintiol’ (Quantified Romantics) a allai gael oblygiadau pellgyrhaeddol i bopeth o’r diwydiant hysbysebu i ffasiwn a Facebook.

Ar ddydd Sadwrn 14 Tachwedd, fel rhan o'r ŵyl genedlaethol 'Being Human', bydd y rhamantydd Richard Marggraf Turley a’r gwyddonydd cyfrifiadurol Reyer Zwiggelaar yn cynnal digwyddiad ymgysylltu â'r cyhoedd.

Mewn gofod tywyll pwrpasol, ‘Y Trobwll’, bydd aelodau o’r cyhoedd yn cael eu gwahodd i edrych ar ddelweddau wedi eu taflunio o beintiadau gothig a darnau allan o nofelau Rhamantaidd tra bod data biometrig yn cael eu casglu gan ddefnyddio breichledau sydd wedi eu creu yn benodol at y pwrpas. Gobaith y ddau yw adnabod ‘effaith’ delweddau a geiriau o’r fath ar y gynulleidfa gyfoes.

Esbonio Marggraf Turley: “Y nod yw archwilio rhai o'r agweddau mwyaf diddorol o'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn ddynol yn y byd modern. A yw nofelau gothig wir yn cyffroi’r galon, fel y bydau eu hawduron Rhamantaidd yn hawlio? A yw paentiadau o geudyllau anferthol, creaduriaid hunllefus, adfeilion abatai mewn coedwigoedd tywyll a chlogwyni creigiog wir yn codi arswyd y gellir ei fesur? Mewn ffordd, mae delweddau o’r fath yn oesol, ac yn cynnig cliw i’n sensitifrwydd cynhenid i rai pethau sy’n tanio ac yn ennyn ymateb emosiynol.”

Cychwynnodd y prosiect chwe blynedd yn ôl pan ddechreuodd Marggraf Turley a Zwiggelaar astudio sut y gallai delweddu thermol gael eu defnyddio i fesur ymateb emosiynol person drwy gyfrwng llenyddiaeth a barddoniaeth.

Mae pethau wedi symud ymlaen, i freichledau clyfar. System gymhleth o synwyryddion sy’n monitro symudiad, curiad y galon, tymheredd a hefyd ansawdd a chyflwr y croen, o un ennyd i’r nesaf.

Fel y noda Zwiggelaar, mae'r prosiect yn dangos nid yn unig lle mae celf a gwyddoniaeth yn cwrdd, ond hefyd sut y gall cyfuno dau faes arwain at ganlyniadau hynod ddiddorol.

“Rydym yn byw mewn byd emosiynol 'supercharged' lle mae pobl yn profi symbyliadau heriol ac emosiynol drwy bob math o gyfryngau, o’r cymdeithasol i ffilm a cherddoriaeth, a hynny yn gyson. Ar yr un pryd, mae llawer ohonom hefyd yn hapus i rannu a datgelu ein teimladau ac emosiynau mewn ffordd nad oedd yn bosib tan ddyfodiad Facebook a Twitter, ac nac oedd wir yn dderbyniol. Faint o hyn sy’n ddilys? Rydym yn byw ac yn symud mewn byd o rith, ond efallai hefyd o dwyll. Rydym yn dangos sut y gall y defnydd o dechnolegau penodol ddatgelu ein gwir ymateb a theimladau, weithiau hyd yn oed i ni ein hunain.”

Ond does gan Zwiggelaar ddim amheuaeth ynghylch pŵer y dechnoleg. “Drwy ddigwyddiadau ymgysylltu â'r cyhoedd fel hyn, a mesur ymateb pobl i ddelweddau Rhamantaidd, gallwn ddatblygu ein technoleg mewn sefyllfa go iawn.

“Y gwir yw ein bod ni fel pobl yn rhagweladwy iawn - mae'n anhygoel pa mor rhagweladwy ydym ni. Er enghraifft, ar Facebook, pan fydd rhywun yn dweud sut maen nhw'n teimlo am eu hunain neu rywun arall, petai gennych ddyfais a oedd yn dangos eu gwir deimladau, gallai hynny fod yn ddiddorol.  Byddai goblygiadau amlycach o fewn y byd ffasiwn neu hysbysebu lle gallai busnesau a dylunwyr fesur effaith eu cynnyrch.’

Ychwanega Marggraf Turley: “Mae’r digwyddiad hefyd yn codi cwestiynau hynod ddiddorol am ein rhagdueddiad i gyfarwyddo a synhwyro o bell. Ydyn ni wir eisiau bod mor dryloyw i gorfforaethau a hysbysebwyr? A ydym yn gyfforddus i ganiatáu dyfeisiau mesur biometrig i mewn i’r rhan fwyaf preifat o’n bydoedd - y synhwyrau?

“Mae biometreg yn cynnig gwerth gwirioneddol, ac i’r rhai sy'n dymuno "gwella" eu hunain, mae argaeledd eang technoleg hunan-fesur yn beth da. Ond mae yna ochr dywyll, byd holl-weladwy parhaus a gwyliadwriaeth ochrol. Byddwn yn trafod y pwnc mwyaf amserol hwn yn ein digwyddiad "Quantified Romantics". “

Cynhelir Quantified Romantics rhwng 11:00 a 15:00 ar ddydd Sadwrn 14 Tachwedd yn Amgueddfa Ceredigion, Ffordd y Môr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 2AQ. Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad, cysylltwch â museum@ceredigion.gov.uk.

Mae ‘Quantified Romantics’ yn rhan o ‘Being Human’, gwyl gyntaf Prydain ym maes y Dyniaethau sy’n cael ei chynnal rhwng y 12fed a’r 22ain o Dachwedd 2015, ac yn cael ei chefnogi gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC) a'r Academi Brydeinig (BA), gyda chefnogaeth gan y Wellcome Trust.

AU18915