Ffrwydrad Tawel: Ifor Davies a Dinistr Creadigol

Rhan o'r arddangosfa ar Ivor Davies.

Rhan o'r arddangosfa ar Ivor Davies.

16 Chwefror 2016

Bydd Judith Bodor, ymchwilydd doethurol ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn cynnal cyfres o seminarau yn Amgueddfa Cymru - National Museum Wales yng Nghaerdydd ar y 25ain o Chwefror, a’r 3ydd  a’r 10fed o Fawrth.

Mae’r seminarau, Exhibition Matters, yn cyd-fynd gydag arddangosfa o waith gan un o brif artistiaid cyfoes Cymru, Ivor Davies, Ffrwydrad Tawel: Ifor Davies a Dinistr Creadigol sydd wedi ei churadu ar y cyd gan Bodor ac sydd i’w gweld yn Amgueddfa Cymru - National Museum Wales tan yr 20fed o Fawrth.

Mae Ffrwydriad Tawel yn brawf o ddiddordeb cyson Davies ym mhŵer creadigol dinistr, ac yn cynnwys paentiadau, cerfluniau a pherfformiadau rhychwantu gyrfa’r artist o’r 1940au hyd heddiw.

Bydd Bodor yn trafod y prosesau mewnol o lunio arddangosfeydd mewn amgueddfeydd gyda gwahoddedigion ac ym mhresenoldeb yr artists, a bydd yn canolbwyntio yn benodol ar berfformiadau o’r 1960au ochr yn ochr gyda darnau celf mewn cyfryngau traddodiadol.

Yn ôl Bodor mae’r seminarau yn “archwiliad ymarferol o sut y gall arddangosfeydd hwyluso mynediad i berfformiad hanesyddol", ac roedd ganddi ddiddordeb mawr mewn gweld “sut y byddai arddangosfa o berfformiadau aml-gyfrwng o’r 1960au yn herio trefn arferol Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.”

Lluniwyd y seminarau fel rhan o Ddyfarniad Doethurol ar y Cyd â’r AHRC, Prifysgol Aberystwyth ac Amgueddfa Cymru - National Museum Wales.

Ceir mwy o wybodaeth am Exhibition Matters ar lein yma.

Exhibition Matters

Seminar 1:
25 Chwefror 2016, 2-4 pm
Conservation Conversation: How to ‘conserve’ material transformation and destruction? Gydag Emily O'Reilly (Prif Warchodwr Papur, Amgueddfa Cymru - National Museum Wales) a Rose Miller (Uwch Warchodwr Paentio Îsl, Amgueddfa Cymru - National Museum Wales).

Seminar 2:
3 Mawrth 2016, 2-4 pm
Remembering Performance – Performing Memory: Using oral history to document performance histories. Gyda’r Athro Heike Roms (Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth)

Seminar 3:
10 Mawrth 2016, 2-4 pm
Towards Silent Explosion: Curatorial dilemmas, processes and decisions in exhibiting historical performance. Gyda Nicholas Thornton (Pennaeth Celfyddyd Gain, Amgueddfa Cymru - National Museum Wales).

Curadur, ymchwilydd ac addysgwr annibynnol yw Judit Bodor sydd ar hyn o bryd yn Diwtor Cyswllt ar gwrs Meistr Mewn Celfyddyd Gain yng Ngholeg Celf a Dylunio Caerdydd, ac yn ymchwilydd doethuriol yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth. Yr Athro Heike Roms a Dr Jaqueline Yallop sy’n goruchwylio’i doethuriaeth.

AU4916