Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn anrhydeddu Ned Thomas

Ned Thomas

Ned Thomas

02 Mawrth 2016

Bydd Ned Thomas, cyn ddarlithydd yn Adran Saesneg a chyn gyfarwyddwr Sefydliad Mercator ar gyfer Cyfryngau, Ieithoedd a Diwylliant ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cael ei anrhydeddu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar nos Fercher 2 Mawrth 2016.

Mae Ned Thomas yn un o dri fydd yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ei Gynulliad Blynyddol sy’n cael ei gynnal yn y Demlo Heddwch yng Nghaerdydd. Y ddau arall yw Geraint Talfan Davies a Rhian Huws Williams.

Dyfernir Cymrodoriaeth er Anrhydedd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol er mwyn cydnabod cyfraniad nodedig tuag at addysg prifysgol cyfrwng Cymraeg ac at waith y Coleg yn fwy cyffredinol.

Mae Ned Thomas yn ffigwr amlwg ym mywyd deallusol y Gymru gyfoes. Bu’n Gyfarwyddwr Gwasg Prifysgol Cymru, yn newyddiadurwr a darlithydd ym Mhrifysgolion Moscow, Salamanca ac Aberystwyth yn ogystal â bod yn ddylanwadol iawn fel ymgyrchydd iaith.

Yn ystod ei gyfnod yn yr Adran Saesneg yn Aberystwyth bu'n darlithio drwy gyfrwng y Gymraeg ar lenyddiaeth ôl-drefedigaethol a chyhoeddodd astudiaethau ar waith Derek Walcott, George Orwell a Waldo Williams.

Sefydlodd y cylchgrawn Planet: The Welsh Internationalist a chyhoeddodd erthyglau niferus ym meysydd llenyddiaeth, gwleidyddiaeth a iaith.

Bu’n Gadeirydd pwyllgorau Cymru a’r Deyrnas Gyfunol o Fiwro Ewropeaidd yr Ieithoedd Llai ac y mae’n enw cyfarwydd yn rhyngwladol ym maes ieithoedd lleiafrifol yn enwedig.

Bu’n Gyfarwyddwr ar Sefydliad Mercator ar gyfer Cyfryngau, Ieithoedd a Diwylliant ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng 1988 ac 1998 ac ef bellach yw ei llywydd, gan barhau i gyfrannu’n sylweddol at y prosiectau a leolir yno, gan gynnwys Cyfnewidfa Lên Cymru a Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau.

Yn ddiweddar, arweiniodd un o brosiectau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol - Cronfa Cyfieithiadau’r Gymraeg, ac mae’n gweithio ar y prosiect Detholion a gefnogir gan y Coleg i gyfieithu gweithiau allweddol i’r Gymraeg.

Enillodd ei gyfrol Bydoedd (2010) wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2011  ac fe fu ei gyfrol The Welsh Extremist – A Culture in Crisis yn hynod ddylanwadol ar fywyd Cymru.

Mae Ned Thomas yn aelod o Gymdeithas Ddysgedig Cymru ac mae’n siarad nifer o ieithoedd gan gynnwys Rwsieg, Almaeneg, Ffrangeg, Eidaleg a Sbaeneg.

AU7416