Cymdeithas Ddysgedig Cymru’n ethol Cymrodyr newydd o Aberystwyth

20 Ebrill 2016

Mae pedwar aelod a chyn aelod staff o Brifysgol Aberystwyth, ynghyd ag alumna wedi eu hurddo gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru.

Urddwyd yr Athro John Doonan, Athro Geneteg a Chyfarwyddwr y Ganolfan Ffenomeg Planhigion Genedlaethol yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig a’r Athro Sarah Prescott, Cadair Rendel mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg.

Yn ogystal, mae’r Athro Michael Hambrey, Athro Rhewlifeg a Chyfarwyddwr Emeritws Consortiwm Newid Hinsawdd Cymru, a’r Athro Len Scott, Athro Emeritws Astudiaethau Hanes Rhyngwladol a Chudd-Wybodaeth, Prifysgol Aberystwyth wedi eu hurddon Gymrodyr.

Hefyd ar y rhestr o Gymrodyr newydd mae’r artist adnabyddus Mary Lloyd Jones, Cymrawd Prifysgol Aberystwyth a chefnogwraig frwd i gynlluniau’r Brifysgol i ailddatblygu’r Hen Goleg, lle mae ganddi stiwdio.

Cafodd y Cymrodyr newydd eu cyhoeddi gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru ar ddydd Mercher 20 Ebrill.

Mae gan y Gymdeithas dros 420 o Gymrodyr, dynion a menywod nodedig o bob maes dysg sy’n ffigurau blaenllaw yn eu disgyblaethau academaidd neu broffesiynau.

Drwy ddod â’r cymrodyr mwyaf llwyddiannus a thalentog sy’n gysylltiedig â Chymru at ei gilydd, mae’r rhychwant hwn o arbenigedd yn galluogi’r Gymdeithas i gyfrannu at ddiben a lles cyffredin sef dyrchafu a hyrwyddo rhagoriaeth ym mhob disgyblaeth ysgolheigaidd ynghyd â darparu cyngor annibynnol ac arbenigol i’r Llywodraeth.

Dywedodd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd y Gymdeithas a Changhellor Prifysgol Aberystwyth: “Rwyf i’n falch iawn i groesawu amrywiaeth mor eang o unigolion rhagorol i’r Gymrodoriaeth eleni. Caiff pob Cymrawd newydd ei ethol ar deilyngdod nodedig ei waith. Bydd y Cymrodyr newydd hyn yn helpu i gryfhau ein gallu i gefnogi rhagoriaeth ar draws pob maes o fewn bywyd academaidd a chyhoeddus Cymru a thramor.

“Mae’n galonogol hefyd fod y gyfran o Gymrodyr benywaidd sydd wedi’u hethol eleni (26%) yn adlewyrchu ymdrechion parhaus y Gymdeithas i wella cynrychiolaeth menywod ymhlith y Gymrodoriaeth. Mae nifer cynyddol o fenywod yn cyrraedd lefelau uchaf eu disgyblaeth, ac yn ddigon priodol caiff hyn ei adlewyrchu yn y nifer a gaiff eu hethol i Gymrodoriaeth y Gymdeithas.”

Sefydlwyd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2010 fel elusen addysgol annibynnol, Gymru gyfan, ddwyieithog, hunanlywodraethol, traws ddisgyblaethol, i sicrhau budd i’r cyhoedd gan gynnwys cydnabod rhagoriaeth ysgolheigaidd, hyrwyddo ymchwil a darparu cyngor arbenigol, annibynnol ac ysgolheigaidd ar amrywiaeth o faterion polisi cyhoeddus.

AU14516