Gwyll/Hinterland yn cael ei dangos yn Unol Daleithiau'r America

Cymrawd y Brifysgol Ed Thomas yn trafod y Gwyll/ Hinterland yn ein digwyddiad alumni yn Efrog Newydd

Cymrawd y Brifysgol Ed Thomas yn trafod y Gwyll/ Hinterland yn ein digwyddiad alumni yn Efrog Newydd

26 Mai 2016

Bydd y ddrama drosedd lwyddiannus Y Gwyll/Hinterland i'w gweld yn fuan yn yr UDA ar deledu cyhoeddus rhad ac am ddim. Mae’r dosbarthwr rhyngwladol all3media International wedi gwerthu'r gyfres gyntaf i American Public Television (APT).

Gwnaed y cyhoeddiad yn Efrog Newydd yr wythnos hon, gan uwch gynhyrchydd y gyfres a Chymrawd y Brifysgol Ed Thomas mewn digwyddiad wedi'i drefnu gan y Brifysgol ar gyfer ei chyn-fyfyrwyr.

Mae cast a chriw Y Gwyll ar hyn o bryd yn ffilmio'r drydedd gyfres yn ardal Aberystwyth gan gynnwys stâd y Brifysgol, a bydd y gyfres newydd yn cael ei dangos yn gyntaf ar S4C ym mis Hydref, 2016.

Mi fydd cyfres gyntaf Y Gwyll – y fersiwn Saesneg – yn cael ei dangos yn yr UDA o 30 Mehefin ymlaen, mewn 13 o farchnadoedd teledu sy'n cynnwys dinasoedd Kansas, Seattle, Oregon, Milwaukee, Buffalo Efrog Newydd a Boston.

Mae'r ddrama drosedd eisoes ar gael ar Netflix yn America, ac mae'r gyfres wedi cael ei gwerthu i ar draws y byd erbyn hyn. Yn eu plith mae sawl gwlad Ewropeaidd: Yr Almaen, Yr Iseldiroedd, Norwy, Y Ffindir, Gwlad Belg, Slofenia, Ffrainc a Denmarc.