Dyfarnu Ysgoloriaethau Ymchwil i Dri

Chwith i Dde: Gruffydd Lloyd Jones, Rebecca Evans a Heddwen Lleucu Daniel

Chwith i Dde: Gruffydd Lloyd Jones, Rebecca Evans a Heddwen Lleucu Daniel

22 Medi 2016

Mae tri myfyriwr wedi ennill ysgoloriaethau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ddilyn doethuriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae Rebecca Evans o’r Bala, Gruffydd Lloyd Jones o Bwllheli a Heddwen Lleucu Daniel o Aberystwyth ymhlith deg o fyfyrwyr PhD ar draws Cymru bydd yn cael cefnogaeth ariannol gan y CCC am gyfnod o dair blynedd.

Bydd Rebecca a Gruffydd ill dau yn dilyn doethuriaeth ym maes Gwyddor Amgylchedd yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS).

Mae Rebecca newydd gwblhau MSc mewn Gwyddor Biofeddygol ym Mhrifysgol Bryste. Bydd disgwyl iddi gyfrannu at ddysgu cyfrwng Cymraeg ym maes biocemeg yn ogystal â defnyddio’i harbenigedd i gynorthwyo gyda’r gwaith o ddatblygu gradd newydd sbon sef ‘Bioleg ac Iechyd Dynol’.

Maes ymchwil Gruffydd fydd sefyllfa’r Rhododendron yng Nghymru a’r effeithiau mae hyn yn cael ar fioamrywiaeth a datblygu dulliau o’i reoli. Mae’n awyddus i ddatblygu’r diddordeb sydd ganddo mewn ecoleg a’r amgylchedd a chreu mwy o raddedigion dwyieithog i’r sectorau amgylcheddol a biolegol yng Nghymru.

Mae Heddwen wedi penderfynu canolbwyntio ar gyfiawnder ieuenctid ac astudio’r berthynas rhwng pobl ifanc yn eu harddegau â’u hysgol. Mae’n gobeithio cyfweld gweithwyr proffesiynol a phobl ifanc yn ogystal â chyfrannu at yr ychydig lenyddiaeth cyfrwng Cymraeg sy’n bodoli ym maes Troseddeg ar hyn o bryd.

Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae’n destun balchder bod y tri myfyriwr disglair yma wedi dewis dilyn eu doethuriaeth yn Aberystwyth. Mae hyrwyddo ymchwil o safon yn holl bwysig i ni fel sefydliad ac fe gafodd hynny ei adlewyrchu yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 a ddyfarnodd bod 95% o’r gweithgaredd ymchwil a gyflwynwyd yn cyrraedd safon gydnabyddedig ryngwladol neu uwch na hynny. Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’r Coleg Cymraeg ar draws ein rhaglenni gradd ac ôl-radd er mwyn hyrwyddo addysg uwch cyfrwng Cymraeg, ac rydyn ni’n ddiolchgar am y gefnogaeth ariannol sy’n cael ei estyn i Rebecca, Gruffudd ac Heddwen”

Mae manylion am y deg ysgoloriaeth doethuriaeth sydd wedi eu dyfarnu gan y CCC eleni i’w cael ar-lein: www.colegcymraeg.ac.uk/cy/amdanomni/newyddion/pennawd-9791-cy.aspx