Cymrodoriaeth yn croesawu llenor o India i Gymru

Venkateswar Ramaswamy

Venkateswar Ramaswamy

08 Tachwedd 2016

Mae un o brif cyfieithwyr llenyddol India’n treulio tri mis ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ôl i Llenyddiaeth ar draws Ffiniau (LAF) lansio’i Gymrodoriaeth gyntaf ar gyfer Cyfieithu ac Ysgrifennu gydag Ymddiriedolaeth India Charles Wallace.

Mae Ymddiriedolaeth India Charles Wallace yn cefnogi nifer o gymrodoriaethau gan gynnwys pedair ym maes ysgrifennu creadigol a chyfieithu.

Mae Cymrodoriaeth Llenyddiaeth ar draws Ffiniau yn Aberystwyth yn cynnig cyfle newydd i fyw a gweithio yng Nghymru am gyfnod o dri mis.

Y Gymrodoriaeth yw’r gyntaf o’i bath yng Nghymru a’r diweddaraf mewn cyfres o gyfnodau preswyl tebyg sydd eisoes ar gael i gyfieithwyr llenyddol o India ym mhrifysgolion Chichester, East Anglia, Caint a Stirling.

Dywedodd Alexandra Büchler, cyfarwyddwr Llenyddiaeth ar draws Ffiniau: “Rydym ni wrth ein bodd i gael Venkateswar Ramaswamy gyda ni fel y Cymrawd cyntaf Ymddiriedolaeth India Charles Wallace ac rydym ni’n hynod o ddiolchgar i’r Ymddiriedolaeth am alluogi’r cyfnod preswyl hwn.

“Bydd Rama, fel rydym ni bellach yn ei alw, yn gweithio ar gyfieithu nofel gan yr awdur cyfoes o Bengal Manoranjan Byapari i’r Saesneg a bydd yn ysgrifennu ysgrif hir am ei brofiad yn cyfieithu llais eiconig gwrth-sefydliadol Bengal, Subimal Misra.”

Awdur gwaith anffuglennol a chyfieithydd yw V Venkateswar Ramaswamy. Fel actifydd yn gweithio dros hawliau’r tlodion llafurol yn Kolkata, mae wedi ysgrifennu am weithwyr, sgwatwyr, slymiau, tlodi, tai ac ailgyfanheddu, ac wedi bod yn arwain ymdrechion i greu gweledigaeth a rhoi cychwyn ar ailadeiladu ei ddinas o’r llawr i fyny.

Ers 2005, mae wedi bod yn cyfieithu ffuglen fer yr awdur o Bengal Subimal Misra.

Wrth sôn am ei waith dywedodd Ramaswamy: “Fy nghefndir fel actifydd yn gweithio yn Kolkata oedd yr hyn a’m denodd i ddarllen a chyfieithu Misra. Does dim llawer o bobl yn gwybod am Misra y tu allan i India, ond yn Bengal mae’n ffigur cwlt ym maes llenyddiaeth avant-garde ac yn ffigur diwylliannol dylanwadol sy’n diffinio gwrth-ddiwylliant deallusol drwy ei arddull unigryw sy’n bwrw llygad beirniadol iawn ar gymdeithas, diwylliant a gwleidyddiaeth Bengal. “

Cyhoeddwyd dau gasgliad o gyfieithiadau Ramaswamy o straeon Misra, The Golden Gandhi Statue from America (2010) a Wild Animals Prohibited (2015), gan HarperCollins India.

Mae trydedd gyfrol sy’n cynnwys dwy wrth-nofela ar y gweill, ac mae casgliad terfynol o straeon hwyr Misra yn cael ei gyfieithu.

Mae Llenyddiaeth ar draws Ffiniau wedi’i leoli yn Sefydliad y Cyfryngau, Ieithoedd a Diwylliant Mercator ym Mhrifysgol Aberystwyth.

 

AU32416