Lansio Cyfnewidfa Iaith

10 Tachwedd 2016

Lansiwyd Cyfnewidfa Iaith ym Mhrifysgol Aberystwyth i hyrwyddo cyfleoedd dysgu iaith i fyfyrwyr a staff.

Sefydlwyd y Gyfnewidfa gan Antonio Barriga Rubio, cydlynydd Ieithoedd Modern yn yr Adran Dysgu Gydol Oes y Brifysgol, er mwyn dod â phobl sy’n dymuno dysgu ieithoedd newydd at ei gilydd.

Yr enw arall arni yw ‘dysgu tandem’, gan fod cyfranogwyr yn cael eu paru gyda phobl o wledydd eraill neu sy'n siarad ieithoedd eraill, fel y gallant ddysgu am ieithoedd a diwylliannau ei gilydd.

Dywedodd Antonio: “Gyda mwy na 90 o genhedloedd wedi eu cynrychioli yma, mae Aberystwyth yn Brifysgol wirioneddol amlddiwylliannol ac amlieithog. Mae'r Gyfnewidfa Iaith wedi ei chynllunio i gyd-fynd â chyrsiau iaith poblogaidd y Brifysgol ac yn agored i fyfyrwyr a staff o bob adran.”

Cafodd ei lansio gyntaf yn 2015 ac erbyn hyn mae’n cynnig 36 o ieithoedd, o Gymraeg i Hwngareg a Corëeg i Saesneg, ac wedi derbyn cefnogaeth Swyddfa Ryngwladol y Brifysgol a’r Gymdeithas Erasmus.

Dywedodd Rosa Soto, Cynghorydd yn Swyddfa Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth: "Mae'r Gyfnewidfa Iaith yn enghraifft ardderchog o gysyniad syml sydd o fudd mawr i bawb sy'n cymryd rhan ynddo. Mae profiad blaenorol o fentrau tebyg yn dangos taw’r cynlluniau mwyaf llwyddiannus yw'r rhai sy'n hyrwyddo cefnogaeth 'myfyriwr-i-fyfyrwyr'. Nid yn unig mae’r Gyfnewidfa Iaith yn cysylltu myfyrwyr cartref â myfyrwyr rhyngwladol, staff a'r gymuned leol, ond oherwydd natur cyfnewid ieithoedd mae hefyd yn hyrwyddo rhannu diwylliannau a hyrwyddo amrywiaeth ein poblogaeth y myfyrwyr.

“Mae myfyrwyr rhyngwladol yn hynod falch o'u diwylliannau ac maent yn awyddus i wneud ffrindiau gyda myfyrwyr cartref a rhyngwladol eraill er mwyn rhannu profiadau. Mae’r Gyfnewidfa Iaith yn darparu strwythur ar gyfer gwneud hyn.

“Yn y cyfnod Ôl-Brexit hwn, mae’r agweddau hyn yn hynod o bwysig i sector Addysg Uwch y DU er mwyn sicrhau bod y DU yn cael ei gweld fel lle croesawgar i astudio," ychwanegodd.

Yn wreiddiol o Dde Affrica, Mila de Clercq yw Llywydd cymdeithas Erasmus Prifysgol Aberystwyth.

“Fe ddes i Aberystwyth yn 2012 i astudio Cyfrifeg a Chyllid ac Economeg. Ond ar ôl y flwyddyn gyntaf, penderfynais nad hwn oedd y maes i mi,” meddai Mila.

"Mae bod yn rhugl mewn Ffrangeg wedi bod yn freuddwyd oes i mi, felly gwnes gais i ymuno â'r Adran Ieithoedd Modern. Un o'r pethau cyntaf a wnes ar ôl cael fy nerbyn oedd ymuno â'r Gyfnewidfa Iaith lle cefais fy mharu gydag Sara, economegydd 26 mlwydd oed o Baris.

"Dyma un o'r pethau gorau i mi ei wneud erioed ar gyfer fy sgiliau iaith. Cynorthwyodd Sara fi gyda phopeth, o ramadeg i gyfieithiadau a hyd yn oed dysgu i mi rhai ymadroddion llafar, a’r cyfan drwy gyfrwng y rhyngrwyd. Mi fues i’n ei chynorthwyo hi gyda'i Saesneg - a oedd yn ffordd wych i mi ddysgu am agweddau mwy academaidd iaith rwy'n defnyddio bob dydd.

"Arweiniodd astudio Ffrangeg at flwyddyn orau fy mywyd, y flwyddyn dramor, pan ddysgais beth mae'n ei olygu i fod yn rhan o gymuned Myfyrwyr Erasmus, a chynnig fy enw am lywyddiaeth y Gymdeithas Erasmus yma yn Aber. Yn bendant, dysgu iaith newydd yw un o'r pethau gorau i mi ei wneud. Diolch Tandem am wneud hyn yn haws ac yn fwy hygyrch i bawb,” ychwanegodd.

Os hoffech wybod mwy am y Gyfnewidfa Iaith, ewch i https://tackk.com/language-exchange.

I ddarganfod mwy am Ieithoedd yn yr Adran Dysgu Gydol Oes, ewch i http://www.aber.ac.uk/en/lifelong-learning/modern-languages/.

AU34116