IBERS yn y Ffair Aeaf

IBERS Gogerddan

IBERS Gogerddan

25 Tachwedd 2016

Mi fydd Athrofa’r Gwyddorau Biolegol Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru'r wythnos nesaf, ddydd Llun 28 a dydd Mawrth 29 Tachwedd 2016.

Wedi ei lleoli ar stondin EXB277 ar y balconi ym Mhafiliwn Da Byw 1, bydd cynrychiolwyr wrth law i roi gwybodaeth i ffermwyr am waith ymchwil diweddaraf yr Athrofa arobryn i gefnogi amaethyddiaeth gynaliadwy yn y Deyrnas Unedig.

Bydd y pynciau fydd yn cael eu trafod yn cynnwys brasterau ac olewau fel elfennau pwysig mewn deiet gwartheg a defaid i ddarparu egni ar gyfer cynhyrchu llaeth a chig, nifer cynyddol yr achosion o lyngyr y rwmen.

Rhoddir sylw hefyd i laswelltydd a meillion sy'n galluogi priddoedd glaswelltir i ddal mwy o law a lleihau'r risg o lifogydd islaw yn y dyffryn.

Mae Hefin Williams o IBERS yn gweithio gyda CFfI Cymru ar brosiect newydd parthed Iechyd a Diogelwch ar y fferm a bydd Dr Beth Penrose yn siarad â ffermwyr am dera'r borfa.

Mae dera’r borfa yn gyflwr cyffredin gyda chyfraddau marwolaeth uchel ymysg da byw, ac yn gyffredin yn y gwanwyn a'r hydref, ac yn gallu effeithio ar faint o fwyd mae anifail yn ei fwyta a chynnyrch llaeth.

Mi fydd gwybodaeth o'r astudiaeth hon yn helpu ymchwilwyr i ddeall barn a gwybodaeth bresennol y sector o ran magnesiwm mewn da byw, lleihau nifer yr achosion o dera'r borfa a gwella’r hyn y mae anifeiliaid sy’n cnoi cil yng Nghymru a Lloegr yn ei fwyta.