IBERS yn cynnal diwrnod gwybodaeth Miscanthus i ffermwyr

Cnwd ynni adnewyddadwy carbon negyddol lluosflwydd yw Miscanthus sydd yn cael ei dyfu ar oddeutu 8,000 hectar o dir gwael ymylol yn y DU.

Cnwd ynni adnewyddadwy carbon negyddol lluosflwydd yw Miscanthus sydd yn cael ei dyfu ar oddeutu 8,000 hectar o dir gwael ymylol yn y DU.

06 Medi 2017

Mewn ymateb i ddiddordeb cynyddol mewn Miscanthus, bydd ymchwilwyr yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnal diwrnod gwybodaeth ac ymweliad maes ar gyfer ffermwyr ar ddydd Iau 28 Medi 2017.

Cnwd ynni adnewyddadwy carbon negyddol lluosflwydd yw Miscanthus sydd yn cael ei dyfu ar oddeutu 8,000 hectar o dir gwael ymylol yn y DU.

Dywedodd trefnydd y diwrnod agored Dr Jon McCalmont: “Mae heriau diwedd y PAC, yr angen i ddatgarboneiddio cynhyrchu ynni a chwilio am gyfleoedd arallgyfeirio yn golygu bod y farchnad sy'n datblygu'n gyflym ar gyfer y glaswellt mawr hwn yn cynnig cyfleoedd gwych mewn ffermio.”

Mae gwyddonwyr IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi bod yn bridio ac yn datblygu Miscanthus fel cnwd bio-ynni ers dros ddegawd, gan gydweithio'n agos â phartneriaid diwydiannol ac arbenigwyr cadwyn gyflenwi marchnad fasnachol, Terravesta.

Bydd y diwrnod yn cynnwys ymweliad â phlanhigfa Miscanthus ar raddfa fawr - cyfle i ffermwyr weld cnwd aeddfed trawiadol, heb ei wrteithio ac yn sefyll dros 3m (10 troedfedd) o uchder, ac i drafod yr agronomeg sy'n gysylltiedig â'i sefydlu a'i gynaeafu.

Bydd ymweliad â fferm Glanystwyth ger Trawscoed i ddilyn, lle mae Richard Tudor wedi bod yn defnyddio'r cynhaeaf o'r blanhigfa hon fel gwely ar gyfer ei 1800 o famogiaid bridio.

Darperir cinio ym Mhwllpeiran, Llwyfan Ymchwil yr Ucheldir IBERS Prifysgol Aberystwyth a fydd yn cynnwys cyflwyniad am gyfleoedd marchnad ac economeg cynhyrchu Miscanthus gan Terravesta.

Bydd y diwrnod yn dod i’w derfyn gyda'r cyfle i weld treialon maes eraill yn yr ucheldir lle mae ymchwilwyr yn profi hybridau newydd Miscanthus dan amodau amgylcheddol mwy heriol.