Gweithgor newydd ar gyfer gerddi’r campws

Ros Laidlaw a Dr Caroline Palmer o gangen Ceredigion Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru yn y llun ar ôl cyfarfod cyntaf y gweithgor tir gyda Rebecca Davies, Dirprwy Is-Ganghellor a Phrif Swyddog Gweithredu ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac Andrea Pennock, Pennaeth Ystadau.

Ros Laidlaw a Dr Caroline Palmer o gangen Ceredigion Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru yn y llun ar ôl cyfarfod cyntaf y gweithgor tir gyda Rebecca Davies, Dirprwy Is-Ganghellor a Phrif Swyddog Gweithredu ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac Andrea Pennock, Pennaeth Ystadau.

17 Hydref 2017

Mae Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru yn gweithio mewn partneriaeth newydd gyda Phrifysgol Aberystwyth i ddatblygu cynllun cadwraeth tymor-hir ar gyfer tiroedd campws Penglais.

Mae gweithgor ar y cyd wedi’i sefydlu gyda chynrychiolwyr o gangen Ceredigion o’r  Ymddiriedolaeth ac fe gynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ddydd Llun 16 Hydref 2017,

Yn ogystal â'r Ymddiriedolaeth, bydd y grŵp yn cynnwys staff Adran Ystadau a rhai o arbenigwyr botanegol y Brifysgol.

Bydd yna ymgynghori gyda staff a myfyrwyr hefyd wrth ddatblygu cynllun rheolaeth a  chadwraeth ar gyfer y gerddi sydd wedi’u rhestru yn Radd II* gan CADW.

Dywedodd Dr Caroline Palmer, Cadeirydd cangen Ceredigion o Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru: “Rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â'r Brifysgol ar yr hyn a ragwelwn fydd yn ddatblygiad cynllun hirdymor i'w weithredu dros gyfnod o sawl blwyddyn. Ein nod ar y cyd fydd llunio polisi fydd yn cwmpasu rhaglen waith cynnal a chadw presennol ynghyd â dyheadau'r dyfodol ar gyfer y dirwedd ddyluniedig hon.  Rydym yn ffodus ein bod yn gallu manteisio ar wybodaeth ac arbenigedd y cyn-arddwr John Corfield, a fu ar y cyd â'r cyn-guradur Basil Fox, yn gyfrifol am dreialu a phlannu coed a llwyni prin yn y 1970au.”

Dywedodd Andrea Pennock, Cyfarwyddwr Ystadau Prifysgol Aberystwyth: “Rydym wrth ein bodd bod cangen Ceredigion o Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru yn gweithio gyda ni wrth i ni ddatblygu ein cynllun rheolaeth a chadwraeth newydd ar gyfer campws Penglais gan eu bod yn meddu ar gyfoeth o wybodaeth fotanegol a hanesyddol am y safle arbennig yma. Bydd ystod ein trafodaethau yn cynnwys edrych ar ba fath o blannu amgen y gellid eu defnyddio yn yr ardaloedd hynny lle nad oedd y planhigion bellach yn hyfyw neu’n achosi difrod. Byddwn hefyd yn tynnu ar arbenigedd arbenigwyr botanegol y Brifysgol ac yn ymgynghori â staff a myfyrwyr wrth i ni hyrwyddo arfer gorau a sicrhau bod gerddi ein campws yn parhau yn ased i’w fwynhau gan y gymuned gyfan.”

Mae’r statws Gradd II* yn cwmpasu sawl ardal nodedig o’r gerddi. Mae'r rhain yn cynnwys y plannu uwchlaw Pantycelyn a ddyluniwyd yn 1963 gan Brenda Colvin, un o benseiri tirwedd blaenllaw’r ugeinfed ganrif; planhigion a osodwyd o amgylch sawl adeilad ar gampws Penglais yn y 1970au, a'r ardd hŷn ym Mhlas Penglais. Mae gerddi wedi’u rhestru yn Llanbadarn hefyd.