Dathlu llwyddiannau dysgu gydol oes

Y fyfyrwraig Dysgu Gydol Oes, Candy Bedworth, sydd wedi bod yn astudio Celf ac sy'm un o ddwy i ennill Myfyriwr y Flwyddyn, gyda’r Athro Judy Broady-Preston, Cyfarwyddwr Athrofa Datblygu Proffesiynol Prifysgol Aberystwyth.

Y fyfyrwraig Dysgu Gydol Oes, Candy Bedworth, sydd wedi bod yn astudio Celf ac sy'm un o ddwy i ennill Myfyriwr y Flwyddyn, gyda’r Athro Judy Broady-Preston, Cyfarwyddwr Athrofa Datblygu Proffesiynol Prifysgol Aberystwyth.

26 Hydref 2017

Mae'r awydd i ddysgu a chariad at ddysg yn egwyddorion cyfeiriol i raglen Dysgu Gydol Oes Prifysgol Aberystwyth.

Dyna oedd neges yr Athro Judy Broady-Preston, Cyfarwyddwr Athrofa Datblygu Proffesiynol Prifysgol Aberystwyth, yn Seremoni Wobrwyo Flynyddol Dysgu Gydol Oes a Dysgu Cymraeg yr athrofa gafodd ei chynnal ddydd Llun 23 Hydref 2017.

Cydnabuwyd llwyddiannau a chyflawniadau myfyrwyr o bob oed ar ystod o gyrsiau gydol oes yn y seremoni a gynhaliwyd yng nghanolfan gynadledda Medrus y Brifysgol.

Roedd y rhain yn cynnwys y Dystysgrif Addysg Barhaus sydd yn cydnabod dysgwyr sydd wedi cwblhau 120 o gredydau ar draws ystod eang o bynciau, a'r Dystysgrif Addysg Uwch, a all gymryd rhwng dwy a chwe blynedd i'w chwblhau'n rhan-amser.

Cyflwynwyd tystysgrifau i fyfyrwyr llwyddiannus gan yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.

Dywedodd yr Athro Treasure: “Mae gan Brifysgol Aberystwyth hanes hir a nodedig o annog dysgu gydol oes, nid yn unig ymysg staff a myfyrwyr amser llawn ond y gymuned ehangach. Mae'n bwysig cydnabod yr ymrwymiad a'r oriau lawer o astudio personol y mae hyn yn ei olygu a'r buddion a ddaw yn sgíl dysgu gydol oes. Rwy'n falch iawn bod llawer o'n myfyrwyr sy'n derbyn tystysgrifau yma heddiw yn symud ymlaen i lefelau uwch o astudio, ar gyrsiau Israddedig a Meistr. Dymunaf yn dda i bob un ohonynt gyda’u hymdrechion, a diolchaf i'n tiwtoriaid am eu hymroddiad at ddysgu ac am wneud hyn i gyd yn bosibl.”

Cyflwynwyd Tystysgrifau Addysg Uwch i saith ar hugain o fyfyrwyr mewn Celf a Dylunio, Ysgrifennu Creadigol, Achyddiaeth, Ieithoedd, Seicoleg, Ecoleg Maes, a Diploma Addysg Uwch mewn Ecoleg Maes a Chadwraeth.

Yn ogystal, cyflwynwyd gwobrau unigol i fyfyrwyr a staff yn ystod y seremoni i gydnabod eu cyfraniadau, eu llwyddiannau a'u cyflawniadau.

Dyfarnwyd Gwobr Goffa Rob Strachan - a enwyd ar ôl yr ecolegydd mamaliaid, y cadwraethwr a’r tiwtor dysgu gydol oes uchel ei barch a fu farw ar ôl salwch byr yn 2014 - i Suzanne Ellis am ei phortffolio o waith ar gyrsiau Deall Mamaliaid.

Cyflwynwyd gwobr Myfyriwr y Flwyddyn i Candy Bedworth a Frances Isaac. Enwebwyd y ddwy, sydd yn astudio Celf, am y wobr gan eu tiwtoriaid a'u cyd-fyfyrwyr.

Cafodd Candy, sy'n byw yn Mallwyd, gydnabyddiaeth am ei gwaith ar daflen asesu addysgol a gynlluniwyd ar gyfer myfyrwyr â nam ar eu golwg, ac a rannwyd yng Nghynhadledd Dysgu a Addysgu'r Brifysgol ym mis Gorffennaf 2017.

Disgrifiwyd Frances Isaacs o Langors ger Aberhonddu, gan ei chyd-fyfyrwyr fel artist ysbrydoledig a pherson sydd yn ysgogi ac yn ddiymhongar. Mae gan bawb air da amdani.

Rhannwyd Gwobr Tiwtor Dysgu Gydol Oes y Flwyddyn rhwng tair.

Enwebwyd Ethel Cure, Kaori Oikawa a Patricia Aitchison am y wobr gan eu myfyrwyr.

Disgrifiwyd Ethel, sydd yn dysgu Sbaeneg, fel gem o athrawes ac esiampl i’r proffesiwn dysgu iaith.

Disgrifiwyd Kaori, sydd yn dysgu Siapaneeg, fel rhywun sydd yn caru ei phwnc ac yn annog myfyrwyr i siarad er mwyn magu eu hyder yn yr iaith y maent yn ei dysgu.

Cydnabuwyd Patricia, sydd yn dysgu Ffrangeg, fel tiwtor sydd yn ysbrydoli ac yn ysgogi pawb yn y dosbarth, ac am ei hiwmor a’i chyffyrddiad ysgafn wrth ddysgu.

Dywedodd yr Athro Judy Broady-Preston, Cyfarwyddwr Athrofa Datblygu Proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Yn haeddiannol, mae Aberystwyth yn cael ei hadnabod fel prifysgol y bobl, gan iddi gael ei sefydlu gyda chyfraniadau pobl gyffredin. Sefydlwyd y Brifysgol oherwydd bod gan y gymuned leol yr awydd i ddysgu a chariad at ddysg, ac ymhyfrydaf fod hyn yn parhau’n wir hyd heddiw. Nid yw’n bosibl dod o hyd i amser i ddysgu weithiau, ond i ni sy'n mynychu’r cyrsiau hyn, rydym yn elwa mewn gymaint o wahanol ffyrdd. Hoffwn hefyd dalu teyrnged i'r holl staff sy'n dylunio, cyflwyno a threfnu'r cyrsiau a diolch iddynt am eu gwaith.”

Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i ddathlu cyfraniad sefydliadau a grwpiau sydd wedi bod yn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg a llwyddiant y myfyrwyr sydd wedi bod yn dysgu’r iaith.

Enillydd Gwobr Cymraeg yn y Teulu yw cyn-Faer Aberystwyth a’r berfformwraig Sue Jones-Davies.

Cyflwynwyd Gwobr Cymraeg yn y Gweithle i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a’r wobr am Grŵp Cymraeg y Flwyddyn i Clwb Clonc Caersws.

Yn ogystal, cyflwynwyd tystysgrifau i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau arholiadau CBAC Cymraeg Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch a Thystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Mae rhagor o wybodaeth am gyfleoedd astudio Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Aberystwyth ar gael ar-lein.