Gwrthrychau Hollywood prin o’r 1940au yn cael eu harddangos yn Ysgol Gelf Aberystwyth

08 Tachwedd 2017

Recapturing ‘Mighty Joe Young’: The Movie! The Memory! The Make-Believe!
20 Tachwedd 2017 tan 2 Chwefror 2018
Oriel Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth


Mae Darlithydd o Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth, Dr Harry Heuser, wedi curadu arddangosfa sy’n cynnwys albwm unigryw yn coffau’r ffilm ffantasi Mighty Joe Young, a gynhyrchwyd yn Hollywood yn 1949.

Crëwyd y ffilm Mighty Jo Young gan yr un tîm creadigol a fu’n gyfrifol am King Kong (1933), ac enillodd y ffilm Wobr yr Academi am Effeithiau Arbennig. 

Mae’r albwm yn cynnwys dros gant o luniau o’r ffilm yn ogystal â ffotograffau dogfennol, darluniau a phaentiadau dyfrlliw sy’n cynnig cipolwg o’r cyfnod cyn dyfodiad effeithiau gweledol CGI, ac o waith yr animeiddiwr o fri Ray Harryhausen (1920–2013) yn arbennig.

“Nid yw’r albwm wedi cael ei arddangos erioed o’r blaen,” eglurodd Dr Heuser. “Fe’i cyflwynwyd, ynghyd â channoedd o lyfrau a chyfnodolion, yn gymynrodd i Brifysgol Aberystwyth gan yr hanesydd ffilm Raymond Durgnat. 

“Rwy’n awyddus  i adfer ac arddangos gwrthrychau o ddiwylliant gweledol sy’n ein hannog i archwilio’r cysylltiadau rhwng y celfyddydau yn ogystal â’r diwydiannau creadigol a’r disgyblaethau academaidd sy’n ymroddedig iddynt. Mae albwm Mighty Joe Young yn adrodd straeon am greadigrwydd a chydweithio, am ddylanwadau artistig a blaengaredd masnachol.

“Mae yna gryn dipyn o ddiddordeb yn artistwaith Ray Harryhausen ar hyn o bryd. I ddathlu canmlwyddiant ei enedigaeth, mae sefydliadau o bwys, gan gynnwys Tate Britain, wedi cynnal arddangosfeydd o’i ddarluniau a’i gerfluniau. Mae ein halbwm wedi denu sylw Sefydliad Ray a Diana Harryhausen, a fydd yn rhoi cyflwyniad yn ein horielau ar 22 Tachwedd. Byddwn hefyd yn cynnal gweithdai animeiddio yn ystod cyfnod yr arddangosfa, a bydd y fideos a grëir yn y gweithdai hynny yn cael eu dangos yn ein horielau.”

Bydd yr albwm yn cael ei arddangos ochr yn ochr â phosteri a deunydd hyrwyddol yn ymwneud â’r ffilm, yn ogystal â darluniau cysyniadol o’r 1940au ar gyfer ffilmiau ac animeiddiadau byr. Bydd yr arddangosfa hefyd yn cynnwys printiau gan Gustave Doré. Roedd ei ddarluniau aruchel a hynod yn rhagflaenu hud Hollywood ac yn ysbrydoliaeth i Harryhausen.

ByddRecapturing ‘Mighty Joe Young’: The Movie! The Memory! The Make-Believe! ar agor yn yr Ysgol Gelf o 20 Tachwedd 2017 - 2 Chwefror 2018. Mae’r Oriel ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 10:00-17:00, a bydd yn cau dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd rhwng 20 Rhagfyr 2017 a 5 Ionawr 2018. Mynediad am ddim.

 

AU31717