Yr Athro Christopher Coker i draddodi Darlith Flynyddol Kenneth N. Waltz ar ddyfodol rhyfel.

Yr Athro Christopher Coker.  Credyd: Jwh, Wikipedia Luxembourg

Yr Athro Christopher Coker. Credyd: Jwh, Wikipedia Luxembourg

14 Tachwedd 2017

Yr ysgolhaig rhyfel enwog a'r arbenigwr ar wrthdaro milwrol, Yr Athro Christopher Coker, fydd yn traddodi Darlith Flynyddol Kenneth N. Waltz eleni, nos Iau 16 Tachwedd am 6y.h.

Mae Christopher Coker, sy'n Athro Cysylltiadau Cyhoeddus yn Ysgol Economeg a Gwyddor Wleidyddol Llundain, yn awdur toreithiog ar bob agwedd ar ryfel.  Mae'n gyn Gymrawd NATO, gwasanaethodd ddwywaith ar Gyngor Sefydliad Brenhinol y Gwasanaethau Unedig, ac mae'n darlithio'n rheolaidd mewn Colegau Amddiffyn ym Mhrydain, yr Unol Daleithiau, Rhufain, Singapore a Tokyo.

Yn ei ddarlith, “Still ‘The Human Thing’? Thucydides, Waltz & the Future of War”, bydd yr Athro Coker yn trafod rhyfel fel nodwedd o'r hyn yr ydyn ni'n ei alw'n 'natur ddynol' neu 'ddynoliaeth', wrth ganolbwyntio ar faterion cyfoes argyfyngus, er enghraifft newidiadau posibl i natur rhyfel sy'n pylu'r gwahaniaeth rhwng pobl a pheiriannau.  Wrth i Ddeallusrwydd Artiffisial ddatblygu fwyfwy'n un o ffeithiau bywyd, bydd yn ystyried ym mha ffyrdd y gallai swyddogaethau a ffurfiau rhyfel newid, ac yn gofyn cwestiynau megis: a fyddwn yn dal i fod angen rhyfel ac a fydd rhyfel yn dal i fod ein hangen ni?

Wrth sôn am yr achlysur, dywedodd yr Athro Ken Booth o Brifysgol Aberystwyth: "Mae Chris Coker yn feddyliwr dadleuol, diddorol a llawn dychymyg.  Yn uchelgeisiol ei ddeallusrwydd, y mae bob amser yn mynd i'r afael â'r materion mawr. Mae teitlau rhai o'i lyfrau diweddaraf yn tystio i hyn: Future War/ Can War be Eliminated?/ Warrior Geeks: how 21st Century Technology is Changing the Way We Fight and Think about War/ The Improbable War: China, the US, and the Logic of Great Power Conflict, a Men at War: what Fiction tells us about Conflict. Gallwn fod yn sicr o ddarlith hynod ddiddorol a heriol ar faes rhyfeddol bwysig o ymddygiad pobl.'

Mae Darlith Flynyddol Kenneth N. Waltz yn denu ysgolheigion nodedig i Aberystwyth i siarad am faterion oedd yn hollbwysig i’r diweddar Ken Waltz, damcaniaethwr cysylltiadau rhyngwladol blaenllaw dros nifer o ddegawdau.

Dan adain Sefydliad Coffa David Davies a'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol cynhelir y ddarlith eleni ym Mhrif Neuadd yr Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Campws Penglais am 6 y.h. nos Iau 16 Tachwedd 2017. Mae croeso cynnes i’r cyhoedd yn ogystal ag i aelodau’r gyfadran a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. Dewch yn gynnar i sicrhau sedd.

 

AU39917