Myfyrwyr rhyngwladol yn gwneud cyfraniad sylweddol i economi Cymru

Cyfranodd myfyrwyr rhyngwladol £18.4m at economi Ceredigion yn 2015/16.

Cyfranodd myfyrwyr rhyngwladol £18.4m at economi Ceredigion yn 2015/16.

21 Tachwedd 2017

Mae myfyrwyr rhyngwladol yn gwneud cyfraniadau diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd sylweddol iawn at Gymru yn ôl adroddiad newydd sydd wedi ei gyhoeddi heddiw, 21 Tachwedd 2017.

Dengys yr astudiaeth, The Economic Impact of International Students in Wales,bod 22,000 o fyfyrwyr rhyngwladol o 140 o wledydd ar draws y byd yn mynychu prifysgolion Cymru yn 2015/16 – bron i un o bob pump o’r boblogaeth fyfyrwyr.

Cynhaliwyd yr ymchwil gan Viewforth Consulting ar ran Prifysgolion Cymru, ac mae’n dangos bod myfyrwyr rhyngwladol a’u hymwelwyr, yn 2015/16, wedi cynhyrchu £716m o allbwn Cymru.

Cynhyrchwyd y cyfraniad economaidd arwyddocaol hwn trwy wariant ar gampws ac oddi ar gampws, ffioedd dysgu, costau llety ac arian a wariwyd mewn caffis, bariau a siopau lleol sydd wedi cynhyrchu  dros £372m o Werth Ychwanegol Gros Cymru (GVA) a chreu 6,850 o swyddi cyfwerth â llawn amser.

Dangosodd y dadansoddiad hefyd fod yr effaith wedi llifo ar draws Cymru, ac y crëwyd 1,598 o swyddi mewn ardaloedd lle nad oes Prifysgol.

Yn ogystal, mae’r £487m o arian sydd wedi ei wario yng Nghymru gan fyfyrwyr rhyngwladol a’u hymwelwyr yn fwy na’r amcangyfrif am gyfanswm gwariant ymwelwyr rhyngwladol yng Nghymru yn 2016.

Cafodd yr adroddiad ei groesawu gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg Kirsty Williams: “Mae Cymru’n parhau i gael ei chydnabod yn rhyngwladol yn lle arbennig i astudio a byw ynddi, ac mae ganddi enw da am ragoriaeth. Mae’r adroddiad hwn yn dangos fod cryfder prifysgolion Cymru yn denu myfyrwyr o bedwar ban byd i astudio yma yn cynnig gwerth cymdeithasol ac economaidd i’n campysau a’n cymunedau, a bod myfyrwyr rhyngwladol yn gwneud cyfraniad arwyddocaol i economi Cymru yn fwy cyffredinol.”

Mae’r adroddiad hefyd yn tanlinellu cyfraniad economaidd myfyrwyr rhyngwladol i Geredigion.

Mae Ceredigion yn cyfrif am 4.5% o'r holl wariant gan fyfyrwyr rhyngwladol yng Nghymru ac maent yn cyfrannu £18.4 miliwn i'r economi leol bob blwyddyn.

O ran cyflogaeth, mae hyn yn golygu bod 355 o swyddi yng Ngheredigion yn cael eu cynnal gan fyfyrwyr rhyngwladol sy'n mynychu Prifysgol Aberystwyth.

Dywedodd yr Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor Rhyngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae gan Brifysgol Aberystwyth hanes hir a nodedig o groesawu myfyrwyr rhyngwladol o bob rhan o'r byd. Mae'r adroddiad hwn gan Brifysgolion Cymru yn tanlinellu eu cyfraniad ac yn adlewyrchu parch pobl o bob cwr ar yr addysg a ddarperir gan brifysgolion Cymru. Bob blwyddyn rydym yn croesawu myfyrwyr o dros 90 o wledydd i Aberystwyth ac mae eu presenoldeb yn cyfrannu at y profiad myfyriwr cosmopolitaidd cyfoethog sydd yma.”

Dywedodd Cadeirydd Prifysgolion Cymru ac Is-Ganghellor Prifysgol De Cymru, yr Athro Julie Lydon: “Mae’r adroddiad hwn yn dangos gwerth cymdeithasol a diwylliannol anfesuradwy ein myfyrwyr rhyngwladol, ac yn dangos fod eu presenoldeb yn cynnig gwerth economaidd uniongyrchol ac arwyddocaol i’n heconomïau lleol a chenedlaethol. Mae’n dangos sut y mae sector addysg uwch rhyngwladol Cymru yn cryfhau presenoldeb byd-eang Cymru ac yn denu buddsoddiad, a bod hynny’n cael effaith uniongyrchol a chadarnhaol ar gymunedau ledled Cymru.” 

Dywedodd Ian Price, Cyfarwyddwr, CBI Cymru (Cydffederasiwn Diwydiannau Prydain): “Mae cymuned fusnes Cymru yn cydnabod y cyfraniad arwyddocaol a wna myfyrwyr rhyngwladol i’r economi leol. Mewn amgylchedd masnachu mwyfwy byd-eang, mae myfyrwyr rhyngwladol yn dod â syniadau newydd, sgiliau pwysig a chysylltiadau â rhwydweithiau ledled y byd. Daw’r cysylltiadau hyn yn fwy allweddol fyth mewn economi wedi Brexit, ac mae’n hollbwysig fod y llywodraeth a chymunedau lleol yn edrych ar sut allant gefnogi gwaith rhyngwladol prifysgolion Cymru i sicrhau y gallant barhau i helpu’r wlad i ffynnu.”

Mae Prifysgol Aberystwyth yn denu myfyrwyr o bob cwr o'r byd i astudio ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig.

Mae cysylltiadau a sefydlwyd ers amser hir gyda gwledydd Asiaidd megis Malaysia yn sicrhau bod gan y brifysgol gymuned ryngwladol fywiog o fyfyrwyr sy'n cyfoethogi bywyd ar y campws.

Graddiodd Mila de Clerq o Dde Affrica gyda gradd mewn Ffrangeg ac Economeg o Brifysgol Aberystwyth ym mis Gorffennaf 2017.

Yn ystod ei hamser yn Aberystwyth, bu Mila yn Llywydd Cymdeithas Erasmus Prifysgol Aberystwyth.

Fel rhan o'i gradd, treuliodd flwyddyn dramor yn Ffrainc lle bu'n gweithio fel tywysydd  twristiaeth gwin yn Chateau de Taillan yn Bordeaux.

Bellach mae Mila yn gweithio fel Cynorthwyydd Marchnata a Logisteg yn Castelnau Wine Agencies yn Llundain, cwmni blaenllaw o Ffrainc sydd wedi bod yn mewnforio a gwerthu gwin ers dros 35 mlynedd.

“Ar ôl graddio, dechreuais ymgeisio am swyddi graddedigion yn Llundain gan wybod y gall fod yn anodd iawn cael gwaith yn y diwydiant gwin oni bai bod gennych gysylltiadau da. Rwy'n credu bod fy mlwyddyn dramor wedi rhoi mantais fawr i mi wrth gael swydd gan y gallwn fanteisio ar fy sgiliau iaith a'm profiad o fyw a gweithio yn Ffrainc. Rwy'n defnyddio fy Ffrangeg bob dydd yn siarad â chyflenwyr a darpar gwsmeriaid, ac mae hynny'n gwneud gwahaniaeth go iawn.”

Mae mwy o wybodaeth am yr astudiaeth i gyfraniad myfyrwyr rhyngwladol i Gymru ar gael ar wefan Prifysgolion Cymru.