Mushaira Aberystwyth – Dathliad o Farddoniaeth y Byd

21 Tachwedd 2017

Mae Sefydliad Mercator Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn cynnal Mushaira ar Nos Fercher, 22 Tachwedd 2017 yn Arad Goch, Stryd y Baddon, Aberystwyth.

Digwyddiad o isgyfandir India yw Mushaira yn wreiddiol, cynulliad o feirdd ydyw i hybu barddoniaeth Urdu neu shayari

Mewn Mushaira goleuir geiriau’r beirdd gan gannwyll a drosglwyddir o berson i berson, gan ddynodi tro pwy ydyw i berfformio.

Bydd Mushaira Aberystwyth yn dilyn yr un patrwm, gyda chyfraniadau yn y Gymraeg, y Saesneg, Urdu, Hindi, Almaeneg, Siapanaeg, a llawer mwy. 

Bydd yno hefyd gerddoriaeth fyw gan y band gwerin gwych Deuair.

Trefnir y digywyddiad gan Mohini Gupta, cymrodor y Charles Wallace Trust sydd ar ymweliad 3 mis â Sefydliad Mercator, a Dewi Huw Owen, tiwtor Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth ac ymchwilydd ym maes Astudiaethau Cyfieithu. 

Dywedodd Dewi Huw Owen: “Gallwch ddod i wrando a mwynhau’r farddoniaeth, neu gallwch ddod i gyfrannu yn y Mushaira. Os am gyfrannu, gofynnir ichi i ddod â dau ddarn na chymerant ddim mwy na 5 munud yr un i’w perfformio. Gallant fod yn gerddi gan feirdd eraill neu’n weithiau gwreiddiol.”

“Does dim thema benodol i’r Mushaira, ond pwysleisia’r digwyddiad amlieithrwydd ac amlddiwylliannedd, felly croesewir y gorau po fwya o ieithoedd ac arddulliau barddonol.”

Bydd y digwyddiad yn dechrau’n swyddogol am 7:30yh, ond mae cais i’r cyfranwyr i gyrraedd am 7yh er mwyn medru llunio trefn berfformio ar gyfer y noson.

Y pris mynediad i bawb yw £4 y pen.

Meddai Cyfarwyddwr Sefydliad Mercator, yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones: “Mae’n llawenydd i ni gael trefnu Mushaira cyntaf Aberystwyth. Dysgom am y traddodiad o rannu barddoniaeth a cherddoriaeth yng ngolau cannwyll oddi wrth Mohini Gupta, ein Cymrodor gyda’r Charles Wallace India Trust ar gyfer 2017. Mae’n gyfle ardderchog i ddathlu’r cyfoeth creadigol a’r amlieithrwydd sy’n nodweddiadol o Aberystwyth.”

Ceir gwybodaeth bellach am y Mushaira ar dudalen Facebook y digwyddiad.