Iolo Williams i agor Arddangosfa Wallace

Bydd y cyflwynydd teledu a'r naturiaethwr Iolo Williams yn agor arddangosfa Wallace: Gŵr Angof Esblygiad? yn yr Hen Goleg ar 8 Chwefror 2018.

Bydd y cyflwynydd teledu a'r naturiaethwr Iolo Williams yn agor arddangosfa Wallace: Gŵr Angof Esblygiad? yn yr Hen Goleg ar 8 Chwefror 2018.

02 Chwefror 2018

Bydd arddangosfa o waith arloesol Cymro nodedig a ddarganfu’r broses o esblygiad trwy ddetholiad naturiol ochr yn ochr â Charles Darwin, yn cael ei hagor gan y cyflwynydd teledu a’r naturiaethwr blaenllaw Iolo Williams yn Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth ddydd Iau 8 Chwefror 2018.

Mae Wallace: Gŵr Angof Esblygiad? yn adrodd hanes Alfred Russel Wallace, un o’r unigolion mwyaf amlwg ym maes esblygu yn y 1800au.

Ar fenthyg gan Amgueddfa Cymru, bydd yr arddangosfa yn cynnwys detholiad trawiadol o'r sbesimenau hanes naturiol a gasglwyd gan Wallace fel rhan o'i ymchwil, gan gynnwys chwilod, gloÿnnod byw ac adar.

Yn ystod ei oes, fe gasglodd Wallace dros 125,000 o sbesimenau anifeiliaid, gan gyhoeddi mwy nag 800 o erthyglau a 22 o lyfrau. Yn fwyaf nodedig oedd y syniad chwyldroadol a gafodd am esblygiad trwy ddetholiad naturiol, yn gwbl annibynnol o Charles Darwin.

Wrth agor yr arddangosfa i'r cyhoedd ddydd Iau 8 Chwefror, bydd Iolo Williams yn siarad am sut mae ymchwil ac ymchwiliadau Wallace yn parhau i ddylanwadu ac ysbrydoli heddiw.

“Roedd Wallace yn fforiwr anhygoel, yn naturiaethwr arloesol ac yn ddeallusol rhyfeddol. Bydd yr arddangosfa hynod ddifyr hon - gyda’i sbesimenau o greaduriaid o bedwar ban byd - yn rhoi darlun arbennig i bobl o ehangder a dyfnder ei waith, a'i gyfraniad at ein dealltwriaeth o esblygiad naturiol,” meddai Iolo Williams, sydd ar hyn o bryd yn cyflwyno cyfres Iolo’s Snowdonia ar BBC One Wales.

Mae gwahoddiad i aelodau'r cyhoedd i fynychu digwyddiadau’r agoriad swyddogol gyda Iolo Williams yn yr Hen Goleg ddydd Iau 8 Chwefror:

•           6yh: sesiwn Iolo Williams ar gyfer pobl ifanc

•           6.30yh: Agoriad swyddogol

•         7yh: Sesiwn Holi ac Ateb gyda Iolo Williams; Dr Caroline Buttler, Pennaeth Paleontoleg yn Amgueddfa Cymru, a Dr Joe Ironside o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Rydyn ni i gyd wedi clywed am Charles Darwin a The Origin of Species ond syndod efallai yw dod i wybod am y cyfraniad enfawr a wnaed gan Alfred Russel Wallace at theori esblygiad. Wrth archwilio ei fywyd a'i waith, bydd yr arddangosfa hon yn codi ymwybyddiaeth bellach am y Cymro rhyfeddol hwn.

“Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o arddangosfeydd yn yr Hen Goleg ac mae'n rhan o'n cynllun hirdymor uchelgeisiol i greu canolfan dreftadaeth a diwylliannol yma a fydd yn helpu gyrru’r economi ac adfywio’r ardal. Rydym yn ddiolchgar i Amgueddfa Cymru am eu cefnogaeth a'u benthyciad gwerthfawr o'r arddangosfa; felly hefyd Cronfa Dreftadaeth y Loteri sydd wedi rhoi Grant Datblygu hael i’n cynorthwyo i ddatblygu'r weledigaeth i adfer ac ailsafleoli’r adeilad gwych hwn.”

Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru: “Rydym yn falch o'n hymrwymiad i sicrhau bod y casgliadau cenedlaethol ar gael mor eang â phosib ac yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth sy'n cynnal yr arddangosfa yma am un o brif arweinwyr theori esblygiad y 19eg ganrif, Alfred Russel Wallace.

"Rwy'n gobeithio bydd yr arddangosfa yn Aberystwyth yn annog ymwelwyr lleol i ddarganfod mwy am fywyd a gwaith Wallace."

Ganwyd Wallace yn 1823 yn Llanbadog ger Brynbuga, Sir Fynwy. Yn 1848, fe deithio gyda'r naturiaethwr William Henry Bates i'r Amazon i ymchwilio i darddiad y rhywogaethau.

Treuliodd Wallace amser yn Ynysfor Mayal (Malaysia ac Indonesia bellach) ac yno, dros gyfnod o wyth mlynedd, fe gasglodd gyfanswm o 125,660 o sbesimenau, gan gynnwys mwy na 5,000 o rywogaethau oedd yn newydd i wyddoniaeth y gorllewin.

Sylwodd Wallace ar batrwm trawiadol yn nosbarthiad daearyddol anifeiliaid ar draws yr ynysfor ac yn ystod y cyfnod hwn y datblygodd ei ddamcaniaeth. Daeth i ddeall sut y mae rhywogaethau'n esblygu - a’u bod yn newid oherwydd bod y cryfaf yn eu plith wedi goroesi ac atgynhyrchu, gan drosglwyddo nodweddion manteisiol eu hil.

Ysgrifennodd Wallace ar unwaith at unigolyn y gwyddai oedd â diddordeb yn y pwnc, Charles Darwin, a fu'n gweithio ar yr un theori am 20 mlynedd, ond oedd eto i'w gyhoeddi. Gofynnodd am gyngor ei ffrindiau, ac fe benderfynwyd y byddai syniadau'r ddau ddyn yn cael eu cyflwyno mewn cyfarfod o'r Gymdeithas Linnean. Cyhoeddwyd  campwaith Darwin, The Origin of Species, y flwyddyn ganlynol.

O'r amser hwnnw ymlaen, bu Wallace yng nghysgod Darwin ac fel rheol ei enw ef yn unig sy'n gysylltiedig â theori esblygiad trwy ddetholiad naturiol.

Mae arddangosfa Wallace: Gŵr Angof Esblygiad? i’w gweld yn yr Hen Goleg, ddydd Llun i ddydd Sadwrn 10yb-4yp o 9 Ionawr tan 17 Ebrill 2018. Mae mynediad yn rhad ac am ddim ac mae croeso i bawb.

Mae cyfres o weithgareddau ar gyfer ysgolion lleol hefyd yn cael eu cynllunio ochr yn ochr â'r arddangosfa, mewn partneriaeth â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Amgueddfa Ceredigion ac Amgueddfa Cymru.